Tywysog Charles
Mae’r Tywysog Charles wedi bod yn derbyn copïau o ddogfennau cyfrinachol y Cabinet yn rheolaidd, yn ôl dogfen swyddogol a gyhoeddwyd yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth.
Dywed Swyddfa’r Cabinet bod dogfennau o bwyllgorau’r Cabinet yn cael eu darparu i nifer cyfyngedig o bobl ar restr sy’n cynnwys y Frenhines, y Tywysog Charles a gweinidogion y llywodraeth.
Credir bod etifeddion y goron wedi cael eu cynnwys yn y grŵp ers y 1930au.
Mae’r grŵp ymgyrchu Republic wedi bod yn brwydro ers tair blynedd i gyhoeddi’r wybodaeth.
Mae Republic bellach wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog David Cameron yn mynnu bod Charles yn cael ei dynnu o’r rhestr o bobl sy’n derbyn y papurau cyfrinachol, sy’n cynnwys manylion o drafodaethau gweinidogion ynglŷn â deddfwriaeth.
Dywedodd prif weithredwr Republic, Graham Smith bod caniatáu i’r Tywysog weld y dogfennau yn “annerbyniol” – “nid yn unig am eu bod yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol ond oherwydd ei fod yn rhoi mantais sylweddol iddo gan ei alluogi i bwyso ei agenda ei hun pan mae’n lobio gweinidogion.”
Daw’r datgeliad ar ôl i rai o lythyron cyfrinachol y Tywysog at weinidogion y llywodraeth gael eu cyhoeddi yn gynharach eleni.