Mae Llywodraeth y DU wedi cael hwb cyn y Nadolig wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos bod nifer y di-waith wedi gostwng i’w lefel isaf ers saith mlynedd a bod nifer cynyddol mewn gwaith.

Mae mwy na 31 miliwn o bobl mewn gwaith, y nifer fwyaf ers i gofnodion ddechrau yn 1971, gan roi cyfradd cyflogaeth o 74%.

Roedd nifer y di-waith wedi gostwng 110,000 yn y chwarter hyd at fis Hydref i 1.7 miliwn, y ffigwr isaf ers y gwanwyn 2008.

Yng Nghymru fe fu gostyngiad o 11,000 yn nifer y bobl sy’n ddi-waith i 88,000.

Fe fu cynnydd o 3,900 fis diwethaf i 796,200 yn nifer y bobl sy’n hawlio lwfans chwilio am waith, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

‘Ein polisïau yn gweithio’

Wrth ymateb i’r ffigurau dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cymru wedi perfformio’n well na bron pob rhan arall o’r DU i gofnodi’r gostyngiad mwyaf yn nifer y di-waith a’r ail gynnydd mwyaf yn y gyfradd cyflogaeth.

“Roedd nifer y diwaith wedi gostwng 17,000 ar draws Cymru yn ystod y flwyddyn, tra bod y gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl ifanc 18-24 oed yng Nghymru yn well na’r cyfartaledd yn y DU.

“Mae ein polisïau yn gweithio.”