Rhun ap Iorwerth
Wrth i’r diwydiant dur ym Mhrydain wynebu dyfodol ansicr yn dilyn costau ynni uwch a chystadleuaeth ryngwladol ffyrnig, mae galwadau heddiw i lywodraethau ‘weithredu’ i achub ein ‘diwydiannau craidd’.

Mae llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth, wedi dweud bod yr argyfwng presennol sy’n wynebu’r diwydiant yn ‘arwydd o broblemau’ ar draws diwydiannau craidd eraill Cymru.

Mae pryder ganddo fod diwydiannau fel y diwydiant cemegol a chynhyrchu metalau sylfaenol yn dirywio, ac mae ffigurau GVA (sy’n mesur gwerth y diwydiant i’r economi) yn dangos bod y Diwydiannau Sylfaenol yng Nghymru wedi gostwng 39%.

Golyga hyn ostyngiad o £2.9 biliwn yn 2008 i £1.7 biliwn yn 2013.

“Rhaid i ni weithredu cyn iddi fynd yn rhy hwyr”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi dangos ‘diffyg cefnogaeth’ i’r diwydiant dur a’i fod bellach mewn ‘sefyllfa fregus’.

“Ond nid problemau’r diwydiant dur yn unig mo’r rhain,” meddai, “a dylem edrych ar y problemau yn y diwydiant dur fel rhybudd y caneri yn y pwll i holl ddiwydiannau craidd Cymru.

“Dengys ffigyrau fod y bygythiad i’n heconomi yn mynd yn ddyfnach o lawer na’r bygythiad i ddur, gan effeithio ar ystod y diwydiannau sy’n sail i’n heconomi.

“Rhaid i ni weithredu yn awr cyn iddi fod yn rhy hwyr. Gwyddom fod prisiau uchel am ynni i ddiwydiannau yn broblem, ac y mae angen i ni edrych i weld sut y gallwn leihau’r costau hyn.

Ychwanegodd y dylai llywodraethau yn y Deyrnas Unedig weithio gyda’r Undeb Ewropeaidd i ‘sicrhau hyblygrwydd’ a ‘defnyddio deddfwriaeth caffael’ i amddiffyn diwydiannau Prydain.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod “neb wedi amddiffyn y diwydiant dur yn fwy na ni.”

“Rydym wedi codi’r mater dros ein pryderon am effaith prisiau ynni uchel y DU â Llywodraeth y Du dros y blynyddoedd ac rydym eto yn galw arnynt i fynd i’r afael â’r broblem fawr hon,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.

“Rydym eisoes yn ystyried sut gellir defnyddio cyfraddau caffael a busnes i gefnogi’r diwydiant yng Nghymru. Mae’r Gweinidog Economi wedi sefydlu Tasglu sy’n cael ei arwain gan y diwydiant i gasglu enghreifftiau o arferion caffael da.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.