Ffoaduriaid o Syria yn cyrraedd Gwlad Groeg
Ar ôl i 10 o ffoaduriaid o Syria gyrraedd Aberystwyth wythnos ddiwethaf, bu cyngerdd yn y dref neithiwr i godi arian at y bobol sydd yn dal i geisio lloches ar draws Ewrop.

Roedd côr Sgarmes a grŵp codi arian lleol, RumAid wedi mynd ati i drefnu’r gyngerdd a ddenodd tua 200 o bobl i Ganolfan y Celfyddydau neithiwr.

Cafodd dros £700 ei godi a bydd yr arian yn mynd at ymdrechion gwylwyr y glannau ar Fôr y Canoldir i achub ffoaduriaid sy’n mentro ar gychod i’w cludo i dir Ewrop a grwpiau lleol sy’n mynd â dillad a nwyddau i bobol sy’n gwersylla yn Calais, Ffrainc.

Fe gyrhaeddodd 10 o bobol o Syria y dref glan-môr yr wythnos ddiwethaf, gan eu gwneud y rhai cyntaf i gyrraedd Cymru.

Maen nhw’n aros mewn fflatiau preifat yn y dref o dan raglen sydd wedi’i drefnu gan Gyngor Ceredigion.

Aberystwyth yn dangos mor ‘flaengar’ yw hi

Yn ôl Huw Bates, rheolwr côr Sgarmes fu’n perfformio yn y gyngerdd neithiwr, mae ymdrechion codi arian y dref a’u ‘parodrwydd’ i groesawu’r ffoaduriaid yn adlewyrchu’n dda ar Aberystwyth.

“Dwi’n meddwl ei fod yn dangos mor flaengar yw’r dref, ac mor groesawgar a chosmopolitan (yw hi),” meddai wrth golwg360.

“Rydyn ni’n byw mewn byd lle mae’n hawdd iawn i gasáu pobol drwy senoffobia ond mae Aberystwyth wedi dangos i’r gwrthwyneb ac wedi dangos ein bod ni yma i helpu pobol sy’n llai ffodus ‘na ni.”

Mae gan y ffoaduriaid sy’n cyrraedd y wlad yr hawl i aros ym Mhrydain am hyd at bum mlynedd a’r hawl i weithio a chael mynediad at gyllid cyhoeddus.

Amcangyfrif bod hyd at 9 miliwn o bobol wedi ffoi’r rhyfel cartref yn Syria ers iddo ddechrau yn 2011.

Ymhlith y cynghorau eraill yng Nghymru fydd yn cynnig lloches i bobol o Syria fydd Torfaen a Chastell-nedd Port Talbot.