Mae dwy ferch a gafodd eu geni filoedd o filltiroedd ar wahân, bellach yn gweithio yn yr un ysgol gynradd Gymraeg ar ôl mynd ati i ddysgu’r iaith.

Yn ddiweddar, cafodd Edina Potts-Klement o Hwngari a Lin Dodd o Tsieina eu penodi i swyddi yn Ysgol Gymraeg Caerffili yn y dref lle maen nhw bellach yn byw.

Symudodd y ddwy i’r dref ar ôl cyfarfod eu partneriaid dramor, a dychwelyd gyda nhw i Gymru.

Mi wnaeth Lin gyfarfod ei gŵr, Martin, yn Iwerddon, ac yn Hwngari y gwnaeth Edina gyfarfod ei gŵr, Neil.

Roedd y ddwy yn awyddus i anfon eu plant i ysgol gynradd Gymraeg a phenderfynodd y ddwy ddysgu Cymraeg.

Edina Potts-Klement

‘‘Ganwyd ein pedwar plentyn yng Nghymru, ac ro’n i eisiau iddynt gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Edina Potts-Klement.

“Dw i wrth fy modd gydag ieithoedd, a dw i’n siarad Hwngareg, Almaeneg a Saesneg, felly roedd dysgu Cymraeg er mwyn cefnogi’r plant yn benderfyniad hawdd.’’

Mae hi a Lin Dodd yn dilyn cwrs lefel Uwch gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei gynnal gan Golwg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Maen nhw o’r farn fod eu swyddi yn yr ysgol wedi gwella eu sgiliau Cymraeg.

Lin Dodd

‘‘Mae gen i fwy o hyder i siarad Cymraeg ers i mi ddechrau gweithio yn yr ysgol,” meddai Lin Dodd.

“Dw i’n gallu parhau i ddefnyddio fy Nghymraeg gartref gyda fy merch sy’n derbyn ei haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Cefais fy synnu pan gynigiodd Mr. Griffiths, y Pennaeth, y swydd i mi ac ro’n i wrth fy modd achos ro’n i wastad eisiau gweithio yn yr ysgol.

“Dw i wedi cael cefnogaeth anhygoel gan fy nhiwtoriaid sef Karen Riste a Holly Hollyman drwy gydol fy nhaith yn dysgu Cymraeg.”

Ymateb eu tiwtor

Penderfynodd Lin gymryd ei llw yn Gymraeg yn ystod ei seremoni dinasyddiaeth yn Ystrad Mynach yn 2021, ac roedd ei thiwtor, Helen Hollyman, yn bresennol yn y seremoni.

‘‘Ro’n i’n lwcus i fod yn y seremoni ac ro’n i’n falch iawn o Lin,” meddai Helen Hollyman.

“Mae dysgu Lin dros y pum mlynedd diwethaf wedi bod yn bleser pur, ac mae’n wych gweld pa mor bell mae wedi dod.

“Mae Edina wedi gwneud cynnydd anhygoel ers i mi ei chyfarfod gyntaf ddwy flynedd yn ôl.

“Mae’n gydwybodol, brwdfrydig ac yn amlwg mae ganddi ddawn gyda ieithoedd.

“Dw i wrth fy modd eu bod yn gweithio mewn amgylchedd Cymraeg, a dw i’n siŵr eu bod yn gaffaeliad mawr i Ysgol Gymraeg Caerffili.”

Pwysigrwydd dysgu ieithoedd newydd

Ychwanegodd Mr Lynn Griffiths, Pennaeth Ysgol Gymraeg Caerffili;

‘‘Iaith gyntaf Edina ydy Hwngareg a Mandarin ydy iaith gyntaf Lin, felly mae cael aelodau o staff sy’n amlieithog yn gweithio yn ein hysgol yn fodd o hyrwyddo pwysigrwydd dysgu ieithoedd newydd,” meddai Mr Lynn Griffiths, Pennaeth Ysgol Gymraeg Caerffili.

“Mae Edina a Lin yn arwyr ieithyddol i bawb yn ein hysgol, ac mae’r clwb Mandarin y mae Lin yn gyfrifol amdano wedi profi’n llwyddiant mawr gyda disgyblion a rhieni fel ei gilydd.

“Dyn ni’n hynod falch o’r hyn y maent wedi ei gyflawni ac mae’r ddwy yn uchel iawn eu parch yn yr ysgol.”

  • Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Dysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim i bobl sy’n gweithio yn y sector addysg yng Nghymru ym mis Medi.  Cliciwch yma i gofrestru eich diddordeb.