Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi pryderon am weithwyr iechyd, cleifion a threthdalwyr, ar ôl i gannoedd o staff y Gwasanaeth Iechyd golli degau o filoedd o ddiwrnodau o waith o ganlyniad i waharddiadau.
Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth, fe ddaeth i’r amlwg fod o leiaf 236 aelod o staff wedi’u gwahardd o’r Gwasanaeth Iechyd dros y pedair blynedd diwethaf – rhwng 2018 a 2021, cafodd dros 37,000 o ddiwrnodau eu colli o ganlyniad.
Collodd staff Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan gyfanswm o 10,072 diwrnod, y nifer fwyaf o blith y rhai oedd wedi darparu gwybodaeth, gydag un gwaharddiad yn para 764 diwrnod.
Dim ond 14 gwaharddiad a fu ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro dros gyfnod o bedair blynedd, ac fe ddaeth i’r amlwg fod un aelod o staff wedi cael gwaharddiad o bum mlynedd ac un arall am ddwy flynedd.
Yn 2020 y cafodd y nifer fwyaf o ddiwrnodau eu colli (11,078), er bod y Gwasanaeth Iechyd dan gryn bwysau o ganlyniad i Covid-19.
Serch hynny, mae’r ffigwr cywir yn debygol o fod yn sylweddol uwch gan nad oedd Bwrdd Betsi Cadwaladr yn fodlon datgelu faint o ddiwrnodau gafodd eu colli o ganlyniad i 65 o waharddiadau.
Roedden nhw’n gwrthod ar sail y ffaith y byddai’n cymryd cryn amser i brosesu’r wybodaeth, ond yn ôl Cais Rhyddid Gwybodaeth yn 2018, cafodd 42,292 o ddiwrnodau o ganlyniad i waharddiadau yn ystod y tair blynedd cyn hynny.
9,160 o ddiwrnodau oedd ffigwr Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, er nad oedden nhw wedi cynnwys ffigurau 2018.
Er bod llai na phum gwaharddiad ym Mwrdd Iechyd Powys, cafodd cyfanswm o 1,818 o ddiwrnodau eu colli.
‘Problem ddifrifol’
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi’n datgelu “problem ddifrifol” yn y Gwasanaeth Iechyd.
“Mae’r niferoedd hyn yn drafferthus am nifer o resymau, ac maen nhw’n datgelu problem ddifrifol yn ein Gwasanaeth Iechyd,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y blaid.
“Yn gyntaf, i’r gweithwyr dieuog hynny yn y Gwasanaeth Iechyd a gafodd eu gwahardd am wythnosau, misoedd ar fisoedd hyd yn oed yn aros am gyfiawnder, hyd nes bod modd iddyn nhw ddychwelyd i’r gwaith.
“Ac yna, mae’r cleifion a threthdalwyr sy’n talu miloedd am waharddiadau ar adeg pan fod prinder staff yn parhau i fod yn bla ar y Gwasanaeth Iechyd, yn enwedig yng ngogledd Cymru lle, yn ôl y disgwyl, dydy pethau ddim wedi gwella ers i ni ofyn ddiwethaf am y wybodaeth yma bedair blynedd yn ôl.
“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur fynd i’r afael â’r Gwasanaeth Iechyd a sicrhau bod gwaharddiadau’n cael eu gostwng o ran eu nifer a’u hyd, er lles gweithwyr gofal iechyd, cleifion a threthdalwyr.”
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai “cyfrifoldeb byrddau iechyd unigol a’r rheolyddion proffesiynol yw materion staffio”.