Mae adroddiad newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynllunio model newydd wrth gyflogi athrawon cyflenwi.
Gwnaed yr adroddiad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae’n cynnig 22 o argymhellion ar sut y dylid gwella telerau athrawon cyflenwi.
Yn ôl canlyniadau’r adroddiad, gwelwyd defnydd uwch na’r cyfartaledd o athrawon cyflenwi mewn ardaloedd difreintiedig.
Y rheswm mwyaf cyffredin i ysgolion ddefnyddio athrawon cyflenwi oedd absenoldeb salwch (41%).
Fel rhan o’r adroddiad hefyd, nodwyd y dylai athrawon cyflenwi gael cynnig DPP fel rhan o’u cytundeb, sef cwrs Datblygu Proffesiynol Parhaus.
Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi croesawu hyn gan alw ar Lywodraeth Cymru “i weithredu ar fyrder wrth fynd i’r afael â’r telerau anghyfiawn sy’n wynebu athrawon cyflenwi.”
Ac mae Cadeirydd y Pwyllgor, Ann Jones, AC Dyffryn Clwyd wedi cydnabod fod “gwaith athrawon cyflenwi yn rhan hanfodol o’r system addysg.”
‘Telerau anghyfiawn’
Mewn ymateb i’r adroddiad, fe ddywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Elaine Edwards eu bod “yn falch bod y Pwyllgor yn derbyn nad yw’r model cyflenwi presennol yn gweithio’n effeithiol – i’r athrawon eu hunain, nac i ddisgyblion.
“Mae athrawon cyflenwi’n wynebu telerau anghyfiawn ym mron pob agwedd o’u cyflogaeth – tâl isel, dim sicrwydd gwaith, dim tâl gwyliau na salwch, bron dim hyfforddiant a dim cyfraniadau pensiwn.”
Esboniodd fod effaith hynny ar athrawon newydd gymhwyso yn “arswydus” gyda llawer yn “gadael y proffesiwn heb gael cyfle i weithredu dan amodau derbyniol.”
Mae’r undeb felly yn croesawu argymhellion y Pwyllgor i greu model newydd ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi er mwyn sicrhau “tegwch sylfaenol” a “safonau addysgol uchel.”
‘Arwyr tawel’
Fe ddywedodd Simon Thomas, llefarydd Addysg Plaid Cymru fod yr adroddiad hwn yn “ategu galwad Plaid Cymru i helpu athrawon llanw, arwyr tawel ein system addysg, yn hytrach na llenwi pocedi asiantaethau.”