Tim Peake
Mae’r roced oedd yn cludo’r gofodwr Prydeinig Tim Peake wedi glanio’n ddiogel yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS) ar ôl gadael Kazakhstan y bore ma.

Fe laniodd y roced Rwsiaidd, a oedd yn cludo Tim Peake, 43, Yuri Malenchenko o Rwsia a’r gofodwr Tim Kopra o’r Unol Daleithiau am 5.33 y prynhawn ma – chwe awr a hanner ar ôl gadael y Baikonur Cosmodrome am 11.03yb (GMT) bore ma.

Er iddyn nhw lanio’n ddiogel ar ôl ychydig o drafferthion, fe fydd yn rhaid i’r tîm aros tua dwy awr cyn gadael y capsiwl er mwyn cynnal profion diogelwch.

Fe fydd Tim Peake yn treulio chwe mis yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol er mwyn cynnal gwahanol brofion.