Mae’r bleidlais i ddewis enillwyr Gwobrau’r Selar bellach wedi agor, gyda chyfanswm o dros 120 o fandiau, cantorion, cyflwynwyr a digwyddiadau’n cystadlu gyda’i gilydd am y 12 gwobr.

Fe fydd noson gyflwyno’r Gwobrau yn cael ei chynnal yn Aberystwyth unwaith eto ar 20 Chwefror, gyda thocynnau hefyd ar werth bellach.

Mae Panel Gwobrau’r Selar, sy’n gymysgedd o gyfranwyr a darllenwyr y cylchgrawn, wedi dewis rhestrau hir ar gyfer y 12 gwobr ar sail enwebiadau gan y cyhoedd, fydd nawr yn cael cyfle i fwrw pleidlais derfynol.

Dywedodd trefnydd y Gwobrau, Owain Schiavone, eu bod yn disgwyl brwydr agos am sawl un o’r gwobrau gan fod ambell un o’r bandiau mwyaf amlwg heb ryddhau cynnyrch eleni.

Dim ffefrynnau clir’

“Y nod ydy ceisio annog cymaint â phosib o bobl i bleidleisio dros yr enillwyr er mwyn gwneud yn siŵr bod y gwobrau’n adlewyrchu barn y cyhoedd,” meddai Owain Schiavone.

“Dros y blynyddoedd rydym wedi addasu rhywfaint ar y drefn bleidleisio, ac ar sail profiad y gorffennol mae cynnig rhestrau hir ar gyfer y categorïau’n ei gwneud yn haws denu pleidleisiau, ac yn golygu bod llai o wastraff pleidleisiau dros gynnyrch anghymwys ac ati.

“Mae safon cerddoriaeth gyfoes y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn aruthrol o uchel unwaith eto, ac mae’n anodd gweld ffefrynnau clir yn unrhyw un o’r categorïau.

“Mae’r ffaith nad yw rhai o’r bandiau amlycaf wedi rhyddhau cynnyrch efallai’n agor y drws i artistiaid eraill greu eu marc. Bydd hi’n ddiddorol iawn gweld y pleidleisiau’n llifo mewn.”

Mae modd pleidleisio ar gyfer y Gwobrau ar dudalen Facebook Y Selar neu ar eu gwefan rhwng nawr a 15 Ionawr, ac mae tocynnau ar werth nawr o wefan Y Selar am y pris cynnar o £12, gyda’r pris yn codi i £15 yn nes i’r dyddiad.