Sioned Terry
Mae’r gantores fezzo-soprano Sioned Terry wedi cyfansoddi casgliad o ganeuon Nadolig o’r enw ‘Teyrnged yr Engyl ac Unawdau Eraill’.
Cafodd y gerddoriaeth a’r geiriau Cymraeg ar dair cân y casgliad eu cyfansoddi gan y gantores o Dowyn ger Abergele ei hun, gyda Peredur Glyn yn cyfieithu’r geiriau Saesneg.
Rhoddodd Sioned y gorau i fod yn athrawes yn 2013 er mwyn troi at berfformio, ac ers hynny mae hi wedi teithio’r wlad yn canu gyda’r cynhyrchiad ‘I Loved You and I Loved You’ gan Sweetshop Revolution, sy’n olrhain hanes bywyd y gyfansoddwraig Gymreig Morfydd Owen.
‘Nid y bwriad gwreiddiol’
“Er i’r tair cân fod yn seiliedig ar achlysur y Nadolig, nid dyna oedd y bwriad yn wreiddiol,” meddai Sioned Terry.
“Ond wrth i’r brawddegau cerddorol ddod at ei gilydd a dwyn ‘siâp’ roedd geiriau ar thema’r Nadolig i weld yn gorffwys yn dda arnynt.
“Mae wedi bod yn uchelgais gen i ers peth amser i gael cyhoeddi fy nghyfansoddiadau. Rydw i’n cael gwefr arbennig o berfformio ar lwyfannau ond mae llonyddwch y broses o ‘sgwennu a chyfansoddi yn gallu bod yn therapiwtig iawn hefyd, er yn unig ar brydiau.”
Cwmni cerdd Curiad sydd wedi cyhoeddi’r casgliad ac fe ddywedodd eu prif olygydd Mary McGuyer bod y “dair unawd yn llawn ffresni deniadol a deallus”.
Bydd y tair cân oddi ar y gyfrol i’w clywed mewn cyngerdd Nadolig blynyddol yn Eglwys Arfordir Y Gogledd, Towyn ar 21 Rhagfyr.