Mae corff sy’n cynrychioli cyhoeddwyr llyfrau Cymreig wedi dweud bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri cyllideb y Cyngor Llyfrau yn un ‘rhagrithiol’ a bod ‘pryder gwirioneddol’ dros swyddi’r diwydiant.

Mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru wedi beirniadu’r Llywodraeth am dorri cyllideb y Cyngor Llyfrau o 10.6% yn ystod blwyddyn ariannol 2016/17.

Bydd y Cyngor Llyfrau yn wynebu toriad o £374,000 mewn cyllideb o £3,526,000, sy’n ostyngiad o dros ddwbl yr hyn mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n ei wynebu, sef 4.7% o’i gyllid (£1.5m).

Mewn llythyr at y cyhoeddwyr, mae cadeirydd a phrif weithredwr y Cyngor Llyfrau  – yr Athro M Wynn Thomas ac Elwyn Jones – yn dweud bod hwn yn ostyngiad ‘sylweddol iawn’ ac yn ‘hynod heriol’.

“Oherwydd maint y toriad fe fydd angen i ni osod blaenoriaethau ar gyfer y grant cyhoeddi gan sylweddoli y bydd yn anodd cynnal yr holl gynnyrch a’r gweithgaredd y mae’r darllenwyr wedi eu mwynhau dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai’r llythyr.

‘Niweidiol iawn i’r byd llyfrau’

Yn ôl y Cwlwm Cyhoeddwyr, mae’r newyddion hyn wedi bod yn “gwbl annisgwyl” a bod “pryder gwirioneddol” ynghylch effaith y toriadau ar y sector.

“Mae’r toriadau hyn mor fawr yn sicr o’u cymharu ag elfennau eraill yn y diwydiannau creadigol, maen nhw’n codi pryder dros ddyfodol y byd llyfrau,” meddai Garmon Gruffudd o gwmni cyhoeddi Y Lolfa.

“Bydd llai o lyfrau yn cael eu gwerthu a’u cyhoeddi a bydd peryg i swyddi yn y diwydiant. Dwi’n ei weld e’n ymosodiad ar y (diwydiant) llyfrau gan Lywodraeth Lafur Cymru ac yn ymosodiad ar ein diwylliant ni.”

“Yn sicr, mi fydd yn niweidiol iawn i ni (Y Lolfa) ac i’r byd llyfrau. Mae’n fy nychryn i beth gall ddigwydd yn y dyfodol.”

Yn ôl y Cwlwm Cyhoeddwyr, gall toriad “mor sylweddol â hyn” fod â goblygiadau tymor hir i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru ac i ffyniant a datblygiad yr iaith.

Mae Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru yn cynrychioli Y Lolfa, Gomer, Gwasg Carreg Gwalch, Gwasg y Bwthyn, CAA, Rily, Dalen a Chyhoeddiadau Barddas.

“Rwy’n gobeithio cwrdd â chynrychiolwyr o’r diwydiant yn fuan. Os bydd y toriad yma yn mynd yn ei flaen, bydd yn niweidiol iawn i’r Cyngor Llyfrau, i’r diwydiannau creadigol yng ngorllewin Cymru, a hefyd i ran bwysig o economi sir Ceredigion.”

‘Gall gael effaith andwyol ar Geredigion’

Mae AC Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones, hefyd wedi rhybuddio y gallai’r toriadau gael effaith andwyol ar Geredigion.

Ceir nifer o gwmnïau cyhoeddi pwysig yng Ngheredigion, sy’n cyflogi dwsinau o bobl yn y diwydiant, meddai.

Dywedodd Elin Jones: “Mae’r diwydiant cyhoeddi yn mynd i dderbyn un o’r toriadau mwyaf oll yng nghyllideb Gymreig 2016.

“Daw’r toriad annisgwyl yma ar ben nifer o flynyddoedd o setliadau ariannol heriol, ac mae’n fygythiad i ddiwydiant sydd wedi bod yn llwyddiant mawr i Geredigion. Mae gymaint o gwmniau cyhoeddi ac argraffu wedi eu lleoli yma, sy’n cefnogi awduron, golygyddion, a dylunwyr graffeg.

“Rwy’n gobeithio cwrdd â chynrychiolwyr o’r diwydiant yn fuan. Os bydd y toriad yma yn mynd yn ei flaen, bydd yn niweidiol iawn i’r Cyngor Llyfrau, i’r diwydiannau creadigol yng ngorllewin Cymru, a hefyd i ran bwysig o economi sir Ceredigion.”

‘Diogelu gwasanaethau’ – Llywodraeth Cymru

“Mae ein cyllideb wedi cael ei thorri’n sylweddol ers 2010, gyda thoriadau mewn termau real pellach i ddod dros y blynyddoedd nesaf o ganlyniad i Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“O ganlyniad i’r cyfyngiadau ariannol hyn, mae penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud er mwyn diogelu’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw fwyaf.

“Rydym yn trafod â Chyngor Llyfrau Cymru am sut y byddan nhw’n gwneud arbedion effeithlon, tra’n blaenoriaethu ac yn targedu ei raglenni grantiau i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.

“Yn y cyfamser, mae’r Gweinidog dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi cytuno cyllid ychwanegol i’r Cyngor Llyfrau i wneud gwaith brys ar ei Bencadlys a’i Ganolfan Ddosbarthu a diweddaru (ei) systemau TG. Bydd yr holl ddiwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn elwa ar hyn.”