Stormtroopers o ffilmiau Star Wars
Wrth i ddilynwyr Star Wars gyffroi ar gyfer y ffilm ddiweddaraf fydd yn y sinemâu, mae hi wedi dod i’r amlwg bod rhai rhannau o Gymru’n teimlo grym y gyfres sci-fi yn gryfach nag eraill.
Fe fydd y diweddaraf yn y gyfres, Star Wars: The Force Awakens, yn cyrraedd sinemâu ar hyd a lled y wlad yr wythnos hon.
Ac yn ôl y Cyfrifiad diwethaf mae dros 8,000 o Gymry, ac 17,000 o bobl ar draws y DU, bellach yn cyfrif eu crefydd fel ‘Jedi’, sydd yn deillio o’r cymeriadau adnabyddus yn ffilmiau George Lucas.
Mae actorion fel Liam Neeson, Ewan McGregor, Hayden Christensen a Mark Hammill wedi chwarae rhan rhai o’r Jedi enwocaf o’r ffilmiau megis Luke Skywalker ac Obi Wan Kenobi.
Dros 1,000 yng Nghaerdydd
Mae’n debyg bod sawl un hefyd yn trigo yng ngorllewin gwyllt Cymru hefyd, os ydi’r data yn unrhyw dystiolaeth.
Rydych chi’n fwy tebygol o gyfarfod ‘Jedi’ yng Ngheredigion nac unrhyw sir arall yng Nghymru gyda 349 o drigolion y sir, neu un o bob 200 person, yn ei restru fel eu crefydd.
Does dim un sir arall yn dod yn agos at ganran Ceredigion o 0.46% y boblogaeth yn Jedis, ond mae gan Gaerdydd, Abertawe, Powys, Gwynedd, Sir Benfro a Bro Morgannwg i gyd ganrannau o dros 0.3%.
Dyw ‘grym’ y Jedi ddim yn gryf ym Merthyr Tudful fodd bynnag, gyda dim ond 0.17% o’i thrigolion yn ystyried eu hunain fel ymladdwyr dros gyfiawnder bydysawd Star Wars.
O ran niferoedd mae gan Gaerdydd dros 1,200 o Jedis yn llechu yn y brifddinas yn rhywle, tra bod dros 800 yn byw yn Abertawe a bron i 450 yn byw yn Rhondda Cynon Taf.
‘Jedi’ Cymru
Awdurdod Lleol Nifer Canran
Ynys Môn 131 0.19%
Gwynedd 378 0.31%
Conwy 314 0.27%
Dinbych 207 0.22%
Fflint 374 0.25%
Wrecsam 300 0.22%
Ceredigion 349 0.46%
Powys 414 0.31%
Sir Gâr 386 0.21%
Sir Benfro 373 0.30%
Abertawe 821 0.34%
Castell-nedd Port Talbot 255 0.18%
Pen-y-bont 312 0.22%
Rhondda Cynon Taf 544 0.23%
Merthyr Tudful 102 0.17%
Bro Morgannwg 379 0.30%
Caerdydd 1,239 0.36%
Caerffili 393 0.22%
Blaenau Gwent 148 0.21%
Torfaen 216 0.24%
Casnewydd 376 0.26%
Sir Fynwy 248 0.27%