Mae Liz Saville Roberts yn dweud bod awdurdodau lleol yn y tywyllwch yn sgil cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin.
Mae hi’n dweud bod y cynlluniau i gynnig noddfa i ffoaduriaid sy’n ffoi o’r wlad o ganlyniad i’r rhyfel “yn bytiog”, gan feirniadu hefyd yr oedi a fu cyn eu cyflwyno.
Mae hi hefyd wedi lladd ar weinidogion am gadw awdurdodau lleol Cymru “yn y tywyllwch”.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Llun, Mawrth 14), dywedodd fod Cyngor Gwynedd wedi derbyn cyswllt rhanbarthol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig fel rhan o’r cynllun.
Ond bu’n galw am wella’r broses gyfathrebu ac am sicrwydd nad yw’r brêcs wedi’u rhoi ar gynlluniau Cymru i fod yn wlad noddfa ar raddfa eang.
Mae llywodraethau Cymru a’r Alban eisoes wedi ysgrifennu at Michael Gove, sy’n gyfrifol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig am Godi’r Gwastad, yn galw am sicrhau bod y ddwy lywodraeth yn cael cynnig noddfa ar raddfa eang er mwyn galluogi “niferoedd mawr i ddod i’n gwledydd yn gyflym”.
Mae Liz Saville Roberts hefyd wedi ategu’r alwad am ddileu’r gofynion fisa ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin sydd am ddod i’r Deyrnas Unedig.
‘Cynigion twymgalon’
“Mae fy awdurdod lleol, Cyngor Gwynedd, wedi bod dan ei sang efo cynigion twymgalon o lety a chefnogaeth,” meddai Liz Saville Roberts yn San Steffan.
“Maen nhw’n poeni, serch hynny, eu bod nhw’n cael eu gadael yn y tywyllwch o hyd.
“Er enghraifft, er gwaetha’r cyhoeddiad ynghylch llinell gymorth i’r cyhoedd, dydy Cyngor Gwynedd ddim hyd yn oed wedi derbyn cyswllt rhanbarthol gan y llywodraeth hon.
“Beth wnaiff yr Ysgrifennydd Gwladol i drwsio gwendid ei gynllun o ran cyfathrebu, a beth fydd yn ei wneud i sicrhau nad oes yna frêcs o hyn ymlaen yn San Steffan ar uchelgais Cymru i fod yn noddfa ar raddfa eang fel Cenedl Noddfa ar gyfer ffoaduriaid Wcráin?”
‘Ymateb annerbyniol’
“Tra fy mod yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw ynghylch llwybr newydd, dydy o ddim yn agos at lefel y gefnogaeth sy’n cael ei chynnig gan wledydd eraill,” meddai wedyn.
“Mae nawdd fisa yn anochel yn cloi allan y ffoaduriaid mwyaf bregus, sy’n ymateb annerbyniol i argyfwng dyngarol.
“Dylem fod yn dileu gofynion fisa fel y gwnaeth gwledydd yr Undeb Ewropeaidd wythnosau yn ôl.
“Os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynnu cadw cyfyngiadau fisa, yna fe ddylen nhw o leiaf adael i Gymru gael statws ‘noddwr mawr’ fel y gallwn ni groesawu ffoaduriaid heb oedi.
“Mae Cymru wedi dangos yn y gorffennol ei bod hi’n gallu cofleidio ffoaduriaid yn gynnes, fel yn achos teuluoedd oedd yn ffoi o Affganistan.
“Roedd hyn ond yn bosib wrth ymgysylltu’n llawn efo cynghorau, Llywodraeth Cymru ac elusennau megis yr Urdd.
“Dydyn ni ddim eto wedi gweld a fydd y cynllun newydd hwn yn dysgu gwersi’r llwyddiant hwn.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw’n gadael rhestr o gwestiynau sydd heb eu hateb, gan gynnwys pa rôl fydd gan gynghorau, beth fydd y trefniadau ariannu a diogelu a sut fydd y cynllun yn gweithio o ran tai, lles a gwasanaethau cymorth eraill.
“Byddaf yn ceisio atebion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y materion hyn.
“Dydy’r cynllun noddi pytiog hwn y bu oedi yn ei gylch ddim yn unol â’n huchelgais yng Nghymru i fod yn Genedl Noddfa.
“Rhaid i ni ailfeddwl ein dull cyfan, a chreu system loches dosturiol sy’n cefnogi pawb sydd angen ein cymorth.”