Wrth i’r Llywodraeth ddatblygu’r cynllun gwaith newydd ar gyfer Mwy na Geiriau, dywed Cymdeithas yr Iaith eu bod yn ymwrthod â’r bwriad i ‘gyflwyno’n raddol lefel “cwrteisi” sylfaenol’.

Lansiodd Llywodraeth Cymru fframwaith Mwy Na Geiriau ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, ym mis Mawrth 2016.

Cafodd grŵp gorchwyl a gorffen ei sefydlu y llynedd i ddatblygu cynllun gwaith pum mlynedd ar gyfer y fframwaith, ac fe fydd yn cyflwyno drafft i’r llywodraeth ym mis Ebrill.

Nes hynny, mae’r grŵp gorchwyl a gorffen yn trafod gyda phartneriaid a’r rhai sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn argymell targed clir i sicrhau fod pawb yn cyrraedd lefel cwrteisi sylfaenol ymhen amser penodol a bod Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru yn ariannu gwersi Cymraeg am ddim i staff y sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn unol â’r drefn yn y sector addysg.

Gwasanaethau Cymraeg “fel mater o drefn”

“Ein gweledigaeth yw y bydd y Gymraeg wedi’i gwreiddio’n ddwfn mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru fel bod siaradwyr Cymraeg yn cael mynediad uniongyrchol at ofal o’r ansawdd gorau sy’n diwallu eu hanghenion iaith heb beryglu eu sefyllfa,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith.

“Yn hyn o beth, gall cleifion a defnyddwyr gwasanaeth ddisgwyl derbyn gwasanaethau Cymraeg fel mater o drefn heb iddynt orfod gofyn amdanynt…[mae] defnydd yr iaith o fewn y gwasanaeth iechyd yn gwbl ddibynnol ar hyn o bryd ar unigolion sydd yn gwthio’r agenda.

“Os ydy’r unigolion yma’n gadael eu swyddi, yna mae’r ymdrech yn mynd yn ofer. All hyn ddim parhau ac mae angen i’r Gymraeg gael ei hystyried yn rhan allweddol o bob agwedd o ofal iechyd i sicrhau cysondeb sylfaenol ar draws y gwasanaeth.

“Rhan o’r ateb yn ôl y mudiad iaith yw gosod disgwyliadau ar reolwyr i adrodd ar sgiliau Cymraeg staff.

“Mae disgwyl i staff gyflwyno tystiolaeth yn gyson i’w cyflogwyr a’u cyrff rheoleiddio proffesiynol ar sgiliau a chymwysterau eraill a gellid ychwanegu sgiliau Cymraeg at hynny, tra yn darparu gwersi Cymraeg am ddim.

“Ymhellach, mae gwir angen gosod cwotâu ar gyfer recriwtio nifer digonol o siaradwyr Cymraeg rhugl ar gyfer gweithlu’r dyfodol.

“Gyda dyfodiad Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, rhaid sicrhau fod egwyddorion Mwy na Geiriau yn cael eu gwreiddio o’r dechrau.

“Bu Heddlu Gogledd Cymru yn llwyddiannus wrth osod targed er mwyn sicrhau fod y gweithlu cyfan yn medru’r Gymraeg ar lefel sylfaenol o leiaf.

“Oherwydd natur y gwaith yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a sefyllfa fregus defnyddwyr gwasanaeth mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau fod gosod a chyrraedd targed o’r fath yn fwy pwysig nag erioed yn y sector hon.”