Mae’r cwmni cwrw annibynnol Drop Bear Beer Co. wedi cyflwyno cynlluniau i godi bragdy di-alcohol carbon niwtral cynta’r byd yn y Fenni.

Mae’r dref yn adnabyddus fel un o brif drefi bwyd a diod de Cymru, a thrwy symud i fferm Celliwig ar gyrion Bannau Brycheiniog, fe fyddai’r cwmni’n gallu cynyddu faint o gwrw maen nhw’n ei gynhyrchu, gan greu rhagor o swyddi yn yr ardal.

Mae’r datblygiad a’r twf sy’n deillio ohono’n gyfystyr â buddsoddiad ecwiti o £1.9m.

Ynghyd â’r bragdy, byddai’r safle’n gartref i warws, ystafell oer, swyddfeydd, a chyfleusterau bragu, pecynnu a rhoi’r cwrw mewn caniau.

“Alla i ddim meddwl am le gwell i Drop Bear ei alw’n gartref na ‘phrifddinas fwyd’ Cymru,” meddai’r cyd-sylfaenydd Joelle Drummond.

“Mae’r diwylliant bwyd a diod mor amlwg yn yr ardal hon, ac roedd y safle arfaethedig unwaith yn gartref i safle gwneud seidr yn y ddeunawfed ganrif.

“Mae ein hamrywiaeth o gwrw yn cael ei mwynhau ledled y byd ac rydym yn edrych ymlaen at wir arddangos ansawdd y rhanbarth yma i gynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol.”

Y fferm a’r safle

Mae Fferm Celliwig ar droed mynydd Y Fâl, ac mae’n gyfuniad o sawl adeilad hynafol ac yn gartref i goed afalau seidr a gwinllan ffrwythau o’r oesoedd canol.

Byddai cynlluniau Drop Bear yn trawsnewid un o adeiladau mwyaf newydd y safle, ac mae’r cynllun i adeiladu bragdy carbon-niwtral hefyd yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a’r parciau cenedlaethol o ran cynaladwyedd, newid hinsawdd a lleihau allyriadau carbon.

“Nid yn unig y byddai’r datblygiad hwn yn chwa o awyr iach ar fferm o’r ail ganrif ar bymtheg, fe fyddai hefyd yn helpu i’w chynnal a’i chadw a’i haddasu at y dyfodol,” meddai Joelle Drummond wedyn.

“Mae disgwyl i’n bragdy fod yn ddatblygiad sy’n arwain yn y byd o ran statws carbon niwtral, ac ar yr un pryd, fe fydd yn anrhydeddu hanes y fferm ac yn sicrhau dyfodol mwy cynaladwy iddi.”

Cefnogi busnesau lleol

Pe bai’r datblygiad yn cael mynd yn ei flaen, mae’r bragdy’n gobeithio cefnogi cynhyrchwyr diodydd lleol eraill drwy gytundebau cynhyrchu a phecynnu.

“Rydym yn deall anawsterau rhoi cytundebau cynhyrchu neu becynnu allan fel brand diodydd, yn enwedig yng Nghymru,” meddai’r cyd-sylfaenydd Sarah McNena.

“Rydym yn awyddus i fynd i’r afael â’r anawsterau hyn ar draws y diwydiant a chynnig cefnogaeth i fusnesau diodydd lleol eraill gyda’n cyfleuster gwyrdd o’r radd flaenaf.

“Mae gan ddiodydd Cymreig gymaint i’w gynnig i’r byd ac rydym yn edrych ymlaen at helpu busnesau eraill sydd ar i fyny i gyflawni eu hamcanion.”

Hanes y cwmni

Cafodd Drop Bear ei sefydlu yn Abertawe gan Joelle Drummond a Sarah McNena yn 2019, ac maen nhw wedi ennill gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol am eu hystod o ddiodydd di-alcohol.

Nod y cwmni yw bragu’r cwrw 0.5% ABV gorau ac adeiladu byd gwell ar gyfer pawb.

Mae’r cwrw’n addas i figaniaid, yn ddi-glwten ac yn isel ei galorïau.

Mae’r cwmni’n gyflogwr Cyflog Byw, ac mae ymrwymiad y perchnogion i’r amgylchedd yn rhan ganolog o’r cwmni.

Y llynedd, daeth Drop Bear yn fragdy B Corporation cyntaf Cymru, gan roi statws i’r cwmni sy’n ei osod ymhlith busnesau bwyd a diod yn y Deyrnas Unedig a’r byd sy’n rhoi pwyslais ar yr amgylchedd a moeseg.

Mae’r cwmni wedi derbyn grant o £92,000 o gronfa Llywodraeth Cymru ar gyfer y cynlluniau newydd, ac maen nhw’n cydweithio â sefydliadau eraill o ran lleihau allyriadau carbon, defnyddio ynni adnewyddadwy a gwneud dadansoddiad o effaith ar yr amgylchedd.

“Rydym wir yn gobeithio bod ein cynlluniau’n cael eu cymeradwyo ac yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r gymuned leol,” meddai Sarah McNena.

“Byddai’r safle hwn wir yn ein galluogi ni i wireddu ein holl nodau o ran bragu cynaladwy mewn rhan brydferth o’r wlad.

“Fel cwmni B CorpTM, mae gennym ni ddyletswydd gyfreithiol i wneud y peth iawn i bobol a’r blaned, ac rydym yn credu nid yn unig y byddai’r datblygiad hwn yn creu mwy o gyfleoedd mewn gweithle gwych, ond fe fyddai o fudd i’r diwydiant diodydd yn ei gyfanrwydd.”