Mae’r fferm solar gyntaf i fod dan berchnogaeth ysbyty yn y Deyrnas Unedig wedi cynhyrchu digon o drydan i bweru Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Cafodd y cyfleuster gwerth £5.7m ei godi yn benodol ar gyfer yr ysbyty, ac mae eisoes wedi arbed £120,000 mewn biliau trydan, er mai dros fisoedd y gaeaf yn unig mae’n weithredol.

Dechreuodd y cyfleuster fod yn weithredol fis Tachwedd y llynedd, ac mae disgwyl iddo arbed 1,000 tunnell o garbon a gwerth £500,000 mewn biliau pan fydd yn gwbl weithredol.

Mae eisoes wedi cynhyrchu gwerth 30,000lWh o ynni dros ben sydd wedi’i werthu’n ôl i’r grid, gan wneud elw i’r ysbyty.

Cafodd y fferm solar ei hadeiladu o ganlyniad i fenthyciad gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyfrannu at ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus erbyn 2030, ac mae’n ad-daladwy ar sail buddsoddi-i-arbed.

Mae’r cyfleuster ar y fferm wedi’i gysylltu â’r ysbyty drwy wifren 3km.

‘Cyflenwad gwydn, dibynadwy a rhesymol’

“Rydyn ni eisiau i’n hynni ddod o ffynonellau ynni adnewyddadwy cymunedol a lleol yng Nghymru,” meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn Llywodraeth Cymru.

“Bydd hyn yn sicrhau bod ein cyflenwad yn wydn, yn ddibynadwy ac yn rhesymol i’n planed ac i’n pocedi.

“Mae gennym uchelgeisiau mawr i ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus erbyn 2030.

“Mae Ysbyty Treforys, sy’n dibynnu nid yn unig ar bwerau’r staff ond hefyd y peiriannau sy’n ysu am ynni i gadw eu cleifion yn fyw ac iach, yn arwain y ffordd wrth droi at ynni adnewyddadwy, sy’n gwneud synnwyr yn ariannol ac er lles iechyd pobol yng Nghymru.

“Mae’r ffaith ein bod yn gaeth i danwydd ffosil yn profi’n niweidiol, yn beryglus ac nid yw bellach yn ddichonadwy.

“Yng Nghymru, byddwn yn parhau i gyflymu ein buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy a mesurau sy’n ynni-effeithlon megis y rhai sydd wedi’u mabwysiadu gan Ysbyty Treforys, ac yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gefnogi symudiad sy’n gymdeithasol gyfiawn tuag at sero-net wrth i ni ymateb i’r argyfwng hinsawdd.”