Mae dyfarniad gan lys apêl yn Llundain yn ergyd i ymgyrchwyr o blaid priodasau o’r un rhyw ar ynysoedd Cayman a Bermwda.
Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig yw llys apêl olaf nifer o ynysoedd y Caribî, ac maen nhw wedi cefnogi safiad Bermwda, oedd wedi bod yn brwydro yn erbyn dyfarniad y Goruchaf Lys i ganiatáu priodasau o’r un rhyw.
Fe wnaeth y Cyfrin Gyngor ddyfarnu hefyd nad oes gan gyplau hoyw mo’r hawl i briodi yn Ynysoedd Cayman ar sail y cyfansoddiad.
“Dw i mewn sioc,” meddai’r ymgyrchydd lleol Leonardo Raznovich, sy’n dweud y bydd e’n apelio eto.
“Mae’r penderfyniad yn groes i urddas dynol.”
Hawliau yn y Caribî
Roedd ymgyrchwyr yn y Caribî wedi gobeithio cael dyfarniad ffafriol er mwyn dechrau newid agweddau pobol ar ynysoedd sy’n draddodiadol yn geidwadol a lle mae cyfreithiau gwrthgwrywgydiol yn dal mewn grym.
Ar y cyfan, dydy priodasau o’r un rhyw ddim yn cael eu derbyn ar yr ynysoedd hyn.
“Mae hi wedi cymryd cryn amser i ni gyrraedd y fan hon,” meddai llefarydd ar ran Colours Cayman, criw o ymgyrchwyr ar ran y gymuned LHDTC.
“Bu’n rhaid i ni neidio dros nifer o rwystrau.
“Byddai’n sicr yn llygedyn o obaith i’r rhanbarth i gyd.
“Dydy’r Cyfrin Gyngor, drwy ei benderfyniad, ddim wedi gwneud llawer mwy nag atgyfnerthu amgylchedd gwleidyddol gormesol y dyddiau a fu.”
Dim ond un allan o bump o farnwyr ar ynys Bermwda oedd wedi tynnu’n groes i’r gweddill, ond mae’r Cyfrin Gyngor wedi cydnabod y “cau allan a’r stigma” a allai godi o’r dyfarniad.
Serch hynny, doedden nhw ddim yn fodlon cyd-fynd â chyfansoddiad ynysoedd eraill lle mae priodasau o’r un rhyw yn gyfreithlon.
Aeth yr achos gerbron y Cyfrin Gyngor yn Ynysoedd Cayman ar ôl i’r awdurdodau wrthod rhoi trwydded briodas i ddwy ddynes yn 2018.
Enillon nhw achos cyntaf yn y llys y flwyddyn ganlynol, ond collon nhw ail achos mewn llys apêl ar sail yr hyn sydd yn y cyfansoddiad.
Ond cafodd y ddwy ddynes statws sy’n gyfwerth â phriodas, er nad yw’r awdurdodau wedi gweithredu ar sail hynny wedyn ac mae’r achos wedi cyrraedd y Cyfrin Gyngor yn Llundain.
Mae rhai yn cyhuddo awdurdodau Ynysoedd Cayman o fod yn homoffobig.