Roedd llanc sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio’r bachgen bach pump oed Logan Mwangi wedi bod yn siarad am “ysfa am drais” ac am ladd pobol.
Cafwyd hyd i Logan yn afon Ogwr yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr ar Orffennaf 31, ac roedd ganddo fe fwy na 56 o anafiadau i’w gorff a’i ben.
Mae Angharad Williamson, mam Logan, ei lystad John Cole a’r llanc i gyd wedi’u cyhuddo o lofruddio’r bachgen bach.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y llanc wedi gwneud bywydau ei deulu maeth yn “uffern” yn ystod yr wythnosau y bu’n byw gyda nhw haf diwethaf.
Dywedodd ar sawl achlysur ei fod e eisiau lladd Logan, ac roedd pryderon fod ganddo fe “ysfa am drais” a’i fod e eisiau ymladd pawb.
Clywodd y llys ei fod e wedi bod yn sôn am wireddu’r digwyddiadau yn y ffilm The Purge.
Dywedodd ei deulu maeth wrth y llys eu bod nhw’n ei ofni, ac y byddai’n cerdded o amgylch yn canu am ladd pobol ac yn camdrin ci’r teulu.
Clywodd y llys fod gweithiwr cymdeithasol y teulu wedi wfftio’u pryderon “fel pe baen nhw’n ddim byd”, ond cafwyd hyd i Logan yn fuan ar ôl iddo adael gofal y teulu.
Tystiolaeth cymydog
Un arall fu’n rhoi tystiolaeth yw cymydog y teulu, Sheryl Lewis.
Dywedodd ei bod hi wedi gweld John Cole tu allan yn llefain ar y ffôn ar Orffennaf 31.
“Helpwch fi, helpwch fi’ meddai. ‘Beth ddylwn i ei wneud?’
Mae disgwyl i nifer o weithwyr cymdeithasol roi tystiolaeth yn ystod yr achos.