Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i gefndir ariannol pâr priod diweddar ar ôl dod o hyd i sgerbwd y gŵr ym mhentre’ Beddau, Rhondda Cynon Taf.

Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau’r wythnos ddiwethaf mai gweddillion John Sabine oedd y sgerbwd y daethpwyd o hyd iddo wedi’i lapio mewn plastig mewn gardd ger bloc o fflatiau.

Bu farw ei wraig, Leigh Ann, ar Hydref 30 eleni o ganser, ac mae hi bellach yn cael ei hamau o’i ladd.

Symudodd y ddau i fyw yn Nhrem-y-Cwm ym mis Chwefror 1997 ac nid oes unrhyw un wedi gweld John Sabine, a fyddai wedi bod yn 85 oed eleni, ers y flwyddyn honno.

Yn ôl Heddlu De Cymru, roedd archwiliad post-mortem wedi dangos bod John Sabine wedi marw yn dilyn ymosodiad o ryw fath.

Roedd y ddau hefyd yn destun ymchwiliad yn Seland Newydd ar ôl iddyn nhw adael eu pum plentyn gyda’r gwasanaethau cymdeithasol, cyn symud i Awstralia.