Cyngor Sir Benfro
Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Benfro wedi gwrthod cais i adeiladu safle gwaith trin gwastraff olew yn Noc Penfro.

Roedd cwmni Barcud Energy o Gaerdydd am drin y gwastraff olew ar ystâd ddiwydiannol ger canol y dre a’i ddefnyddio i gynhyrchu trydan.

Bu gwrthwynebiad i’r cynlluniau, gyda llawer yn poeni y gallai’r datblygiad fod yn un peryglus.

Roedd Cyfeillion y Ddaear wedi dweud hefyd y gallai gael effaith ar iechyd pobol yr ardal.