Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi’r gostyngiad yn nifer y disgyblion mewn ysgolion sy’n dewis dysgu iaith dramor.

Ar Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol, mae’r blaid yn tynnu sylw at blant dwyieithog sy’n ei chael hi’n haws dysgu iaith arall.

Mae llefarwyr y blaid ar Addysg a’r Gymraeg yn galw am ymgyrch i gynyddu nifer y disgyblion sy’n dewis iaith dramor yn yr ysgol, i gynyddu capasiti athrawon ac i gynyddu nifer y gwersi y caiff disgyblion yn ifanc.

Maen nhw hefyd am weld fframwaith newydd sy’n galluogi ysgolion i ddod yn ganolfannau rhagoriaeth sy’n arbenigo mewn ieithoedd tramor.

Yn ystod etholiad 2021, fe wnaeth y blaid ymrwymo i ostwng ffioedd dysgu i’r rheiny sy’n astudio ieithoedd yn y brifysgol, ac mae Laura Jones a Samuel Kurtz, dau o’r Aelodau Ceidwadol yn y Senedd, yn credu bod y gostyngiad yn nifer y rhai sy’n dysgu ieithoedd tramor yn cael effaith ar ddyfodol disgyblion, ond y gall llwyddiant dwyieithrwydd arwain at ddisgyblion yn dod yn amlieithog.

Adroddiad

Mae adroddiad diweddar gan y Cyngor Prydeinig ar dueddiadau ieithyddol yng Nghymru yn nodi nifer o ystadegau pryderus o ran dysgu ieithoedd tramor yng Nghymru:

  • roedd nifer y rhai oedd wedi cofrestru i astudio Ffrangeg ac Almaeneg ar gyfer TGAU bron â haneru rhwng 2015 a 2021 – ac wedi gostwng o 11% a 12% dros y flwyddyn ddiwethaf;
  • mae nifer y rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer TGAU mewn iaith ac eithrio Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Chymraeg dros y ddwy flynedd diwethaf wedi gostwng yn sylweddol – o 626 yn 2018 i 175 yn 2021, sy’n ostyngiad o 72%;
  • does gan 46% o ysgolion uwchradd wnaeth ymateb i’r arolwg ddim darpariaeth ôl-16 neu dydyn nhw ddim yn cynnig ieithoedd tramor yn y Chweched Dosbarth;
  • nododd 78% o ysgolion fod Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar ddysgu ieithoedd.

Nododd yr adroddiad hefyd y bu cynnydd bach yn nifer yr arddegwyr yng Nghymru, ac felly nad yw’n bosib priodoli’r gostyngiad yn nifer y rhai sy’n dysgu iaith dramor i ostyngiad yn nifer y plant sy’n mynd i’r ysgol.

Er gwaetha’r gostyngiad, roedd nifer y rhai fu’n astudio Ffrangeg a Sbaeneg yn Lloegr rhwng 2019 a 2020 wedi cynyddu – er bod cynnydd o 2% yn nifer y disgyblion oedd yn dilyn cyrsiau TGAU – ac am y tro cyntaf ers i gofnodion gael eu cadw, denodd Sbaeneg fwy na 100,000 o ddisgyblion, bron ddwywaith y nifer yn 2005.

‘Difodiant’

Mae Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, yn rhybuddio am “ddifodiant” ieithoedd tramor mewn ysgolion.

“Mae angen brys i fynd i’r afael â hyn, os ydyn ni am ddiogelu addysg ac arfogi’n plant gyda’r offer sydd ei angen arnyn nhw i gystadlu ar y llwyfan rhyngwladol, sef sut mae ein gwlad bellach yn symud ar ôl Brexit,” meddai.

“Rydyn ni’n gwybod fod y sawl sy’n siarad nifer o ieithoedd yn elwa mewn sawl ffordd ac yn ennill sgiliau trosglwyddadwy a fydd o les iddyn nhw’n oedolion, gan sicrhau y gallan nhw gystadlu yn y farchnad swyddi gystadleuol yn y dyfodol, teithio a’u gosod nhw ochr yn ochr ac ar dir gwastad gyda gweddill Ewrop a’r byd.

“All Llafur ddim parhau i ddweud bod Cymru’n gymdeithas agored, ryngwladol pan fo’n methu ag ennyn brwdfrydedd disgyblion i ddysgu ieithoedd tramor, ac yn methu â recriwtio’r athrawon sy’n angenrheidiol er mwyn gwneud hynny.”

Dywed y bydd y blaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid eu dulliau er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth a’r nifer sy’n dysgu ieithoedd tramor yn yr ysgol fel rhan o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, ac o bosib newid yn strwythur y diwrnod ysgol fel bod modd i’r genhedlaeth nesaf fyw mewn Cymru amlieithog.

‘Ddylen ni ddim cyfyngu ein hunain i ddwy iaith’ 

“Rydyn ni’n amddiffynwyr balch o’r iaith Gymraeg oherwydd, gallwn weld ohoni fod dwyieithrwydd yn rym positif yn y gymdeithas Gymreig,” meddai Samuel Kurtz, llefarydd iaith Gymraeg y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae data yn awgrymu bod gan y sawl sy’n medru mwy nag un iaith lefel uwch o gyflogadwyedd a mwy o weithrediad gwybyddol.

“Fodd bynnag, fel gwlad, ddylen ni ddim cyfyngu ein hunain i ddwy iaith.

“O ystyried llwyddiant y Gymraeg wrth ddangos manteision dwyieithrwydd, mae’r Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol yn amser gwych i hyrwyddo’n galwadau ni am ymgyrch gadarn i gynyddu nifer y rhai sy’n dysgu ieithoedd tramor, fel bod modd i fwy o bobol brofi’r rhodd o allu siarad nifer o ieithoedd.”