Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd yn agor ddiwrnod yn hwyrach na’r disgwyl.

Roedd disgwyl i’r ffordd osgoi, sydd wedi costio £139m, agor heddiw (dydd Gwener, Chwefror 18), ond fydd hi ddim yn agor tan ddydd Sadwrn (Chwefror 19).

Dywed Llywodraeth Cymru fod yr oedi er mwyn annog pobol i beidio teithio heb fod angen yn ystod Storm Eunice.

Dechreuodd y gwaith o adeiladu’r cynllun, a gafodd ei gyflawni gan Gyd-fenter Balfour Beatty Jones Bros, yn 2019.

Mae’r ffordd osgoi 9.7km yn rhedeg o gylchfan y Goat ar yr A499/A487 i gylchfan Plas Menai.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r cynllun wedi rhoi hwb i’r economi leol, gyda bron i £70m yn cael ei wario gyda busnesau yng Nghymru, a £12m o wariant ar fentrau bach a chanolig,

93% o’r gweithlu o’r gogledd

Yn ystod y cyfnod adeiladu, daeth 93% o’r gweithlu o’r gogledd, gyda 31% yn byw o fewn deng milltir.

Cafodd 36 o raddedigion a phrentisiaid eu cyflogi a’u hyfforddi, tra bod 15 o bobol wedi cael profiad gwaith.

Ar gyfartaledd, roedd 160 o bobol yn gweithio ar y cynllun ar unrhyw adeg yn ystod y gwaith adeiladu.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dweud bod mesurau wedi’u rhoi ar waith i leihau effaith amgylcheddol y cynllun.

Cafodd 170,000 o blanhigion eu plannu, sydd yn darparu tua 14 hectar o rywogaethau brodorol newydd, coetiroedd a phrysgwydd, yn ogystal â thros 20 cilomedr o wrychoedd newydd, yn ôl y Llywodraeth.

‘Sgiliau ac ymroddiad’

“Y cynllun hwn yw un o’r rhaglenni seilwaith diweddar mwyaf yng Ngogledd Cymru,” meddai Lesley Griffiths, sydd â chyfrifoldeb dros y gogledd yn Llywodraeth Cymru.

“Cafodd ei gyflawni cyn pryd yn ystod cyfnod heriol dros ben.

“Rwy’n llongyfarch pawb a fu’n ymwneud â chyflawni’r cynllun hwn yn ystod y pandemig, gan ddiogelu eu gweithlu.

“Mae’n dyst i’r sgiliau a’r ymroddiad sydd gennym yma yn y Gogledd.”

‘Hwb i’r economi leol’

“Mae ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd wedi bod yn hwb i’r economi leol yn ystod y cyfnod adeiladu, gan ddarparu cyfleoedd i brentisiaid a graddedigion, tra bod busnesau a chyflenwyr hefyd wedi elwa,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi.

“Yn y tymor hir, bydd y cysylltedd gwell i Ystad Ddiwydiannol Cibyn, ac ymhellach i ffwrdd, yn dda ar gyfer twf economaidd y rhanbarth.”