Mae’r Mudiad Meithrin yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r her recriwtio staff sy’n wynebu’r sector blynyddoedd cynnar.

60 mlynedd wedi Tynged yr Iaith, mae’r mudiad yn galw am gymorth, ac yn dweud bod yna “her ddifrifol” yn eu hwynebu yn sgil diffyg gweithlu blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg.

Dim ond 4.4% o’r rhai sy’n hyfforddi o’r newydd yn y maes sy’n derbyn hyfforddiant drwy’r Gymraeg, meddai.

Er bod y Mudiad Meithrin yn croesawu addewid Llywodraeth Cymru i gefnogi agor 60 Cylch Meithrin arall yn ystod y tymor Seneddol hwn ac ehangu’r cynnig gofal i blant, mae hynny’n ychwanegu at yr her o ganfod gweithwyr.

Er mwyn cwrdd â’r heriau a’r amcanion hyn, mae angen cymhwyso hyd at 300 o staff newydd y flwyddyn, neu 1,500 cyn diwedd tymor y Senedd.

Mae’r Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi dogfen, Grym ein Gweithlu, sy’n cynnig dadansoddiad o natur yr her ac yn gobeithio sbarduno sgwrs am y newidiadau sydd eu hangen er mwyn denu rhagor o bobol i’r gweithlu.

‘Dechrau’r daith i siarad Cymraeg’

“Gwyddom o brofiad ac o edrych ar ddata mai Cylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd Cymraeg yw’n prif ffordd fel cenedl o ddechrau plant ar eu taith at ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus gan fod y mwyafrif yn symud ymlaen i ysgolion Cymraeg,” meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies wrth gyflwyno’r ddogfen, ynghyd ag argymhellion yn ymwneud â meysydd polisi, cyllid a chyflogadwyedd, hybu a hyrwyddo, a chymwysterau a hyfforddiant, i Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Mae sicrhau gweithlu cymwys yn hollbwysig er mwyn cyfrannu at yr agenda hwn ac er mwyn creu’r galw trwy sefydlu mwy o Gylchoedd Meithrin a Meithrinfeydd Dydd Cymraeg.”

Heb weithlu Gofal Plant, does dim gobaith gwireddu cynlluniau pwysig ac uchelgeisiol Cymru ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg newydd i’r dyfodol, yn ôl y mudiad.

‘Allweddol’

Dywed Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, fod cynllunio’r gweithlu, a sicrhau cyflenwad digonol o staff i gynnal darpariaeth Gymraeg, yn “allweddol o ran ymgyrraedd tuag at nodau Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru”.

“Am y rheswm hwnnw, mae’r ddogfen hon i’w chroesawu’n fawr a bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn benodol wrth weithio gyda cholegau addysg bellach i gynyddu eu darpariaeth i ddysgwyr yn y meysydd hyn, a’u galluogi i gymhwyso fel ymarferwyr, yn edrych ymlaen at gyfrannu’n ymarferol at y gwaith,” meddai.