Fydd dim angen pasys Covid i fynd i rai digwyddiadau yng Nghymru o fory (dydd Gwener, Chwefror 18), yn ôl Llywodraeth Cymru.
Daw hyn wrth i weinidogion barhau i godi rhai o’r cyfyngiadau Covid wrth i achosion barhau i ostwng.
Fydd dim angen pas ar gyfer digwyddiadau dan do fel clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.
Ond mae croeso i fusnesau barhau i’w gweithredu os ydyn nhw’n dymuno.
Fe fydd Pas Covid rhyngwladol yn dal i fod yn rhan bwysig o’r trefniadau wrth deithio dramor.
Dylai teithwyr edrych ar reolau’r wlad maen nhw am fynd iddi, gan gynnwys edrych a oes trefniadau gwahanol ar gyfer plant.
‘Haul ar fin dod ar fryn’
“Pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, roedd y Pas Covid yn un o nifer o fesurau i ennyn hyder, i gadw busnesau’n agored ac i ddiogelu Cymru,” meddai Dawn Bowden, Gweinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru.
“Hoffwn ddiolch i bob sector am eu cydweithrediad a’u hymateb yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Gyda mwy a mwy o bobl wedi cael y brechlyn a’r brechlyn atgyfnerthu erbyn hyn a diolch i waith caled pawb ledled Cymru, rydyn ni’n hyderus bod cyfraddau’r Coronafeirws yn cwympo a bod yr haul o’r diwedd ar fin dod ar fryn.”
Fe ddaeth pasys Covid i rym yng Nghymru ar Hydref 11 y llynedd, ar ôl i weinidogion Cymru ennill pleidlais agos yn y Senedd.
Fe ymestynnodd Llywodraeth Cymru eu defnydd ar gyfer sinemâu a theatrau yng Nghymru o Dachwedd 10 y llynedd, ac arweiniodd y bleidlais at brotest ar risiau’r Senedd yn erbyn eu defnydd.
‘Yn faich ar fusnesau’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn galw ers cyn y Nadolig am amserlen i nodi pryd fydd y pasys yn dod i ben.
Yn ôl Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, does dim oes prawf i ddangos eu bod wedi gweithio i gyfyngu ar ledaeniad coronafeirws na chwaith i gynyddu’r nifer sy’n cael eu brechu.
“Rwy’n falch iawn o weld diwedd y pasbortau brechu sydd wedi bod yn gwbl aflwyddiannus, aneffeithiol, costus, a heb brawf eu bod nhw’n gweithio, o’r diwedd,” meddai.
“Nid yw’r mesur afresymol hwn erioed wedi dangos unrhyw arwydd o lwyddiant, gan brofi ei fod ond yn faich ar fusnesau a defnyddwyr.
“Yn hytrach na bod yn werth chweil, roedden nhw’n niweidiol ac yn aflonyddgar.
“Fel y nododd y Ceidwadwyr Cymreig cyn eu cyflwyno, mae’n ddyletswydd ar bob deddfwr i wneud cyfraith dda a tharo cyfraith wael – o ystyried yr holl faterion a ddaeth gyda phasbortau brechlyn a’u diffyg effeithiolrwydd, ni ddylai Llafur fyth fod wedi eu hystyried yn y lle cyntaf.”