Mae un person yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd A4067 yn Ystradgynlais yng Nghwm Tawe.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger cylchfan yr A4068 toc wedi 1 o’r gloch brynhawn Sul.

Bu’n rhaid torri’r gyrrwr yn rhydd.

Cafodd un person ei gludo i Ysbyty Treforys, ond does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.