Mae Plaid Cymru wedi galw am ddatganoli cyfraith a threfn i Gymru’n dilyn adroddiad seneddol damniol am y ffordd y mae’n cael ei weinyddu yn San Steffan.

Mae’r adroddiad yn feirniadol o aneffeithlondeb y Swyddfa Gartref, ac mae hynny’n tanlinellu’r angen i ddatganoli’r cyfrifoldebau i Gymru, meddai ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru yng ngorllewin Abertawe, Dr Dai Lloyd.

Dywed Dr Lloyd fod methiant difrifol yn y ffordd y mae llywodraeth San Steffan yn trin eu heddlu, gan gynnwys torri eu cyllideb.

Mewn datganiad, dywedodd: “Mae’r adroddiad yn dangos bod y Swyddfa Gartref wedi cadw comisiynwyr heddlu a throseddu yn y tywyllwch – ac wedyn wedi torri cyllideb yr heddlu’n sydyn mewn rhai achosion a’u codi’n syfrdanol mewn achosion eraill’.

“Nid dyma’r unig enghraifft o fethiant o ran Swyddfa’r Gartref o bell ffordd – ac eto mae’r llywodraeth Dorïaidd yn ddigon haerllug i wrthod hawl Cymru i reoli plismona a’r llysoedd droson ni ein hunain.

“Pam disgrimineiddio yn erbyn Cymru?  Mae’r Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu penderfynu drostyn nhw eu hun – gyda rheolaeth lawn dros yr heddlu a’r llysoedd.”