Mae menywod wedi cael eu hethol i gynghorau lleol yn Saudi Arabia am y tro cyntaf, a hynny wrth iddyn nhw gael y bleidlais am y tro cyntaf erioed hefyd.

Roedd y canlyniadau ar yr olwg gyntaf yn awgrymu bod tair menyw wedi ennill – un yn Madrakah, un yn Jiddah ac un yn rhanbarth al-Jawf.

Er iddyn nhw gael yr hawl i bleidleisio, does gan fenywod yn y wlad ddim hawl i yrru o hyd.

Mae disgwyl i’r canlyniadau llawn gael eu cyhoeddi’n ddiweddarach ddydd Sul.

Roedd mwy na 130,000 o fenywod wedi cofrestru i bleidleisio, a hynny o’i gymharu ag 1.35 miliwn o ddynion.

Ond mae’n cael ei weld fel cyfle i roi llais i fenywod yn y wlad.

Mae’r diwrnod hanesyddol wedi cael ei ddisgrifio fel “cam anferth i fenywod yn Saudi”.

Ond er mwyn cydymffurfio â thraddodiadau Islamaidd, roedd rhaid i ddynion a menywod bleidleisio ar wahân, a doedd dim hawl gan fenywod i annerch cynulleidfaoedd o ddynion yn uniongyrchol, gan draddodi areithiau o’r tu ôl i sgrîn.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ar eu gwaith ar Ionawr 1.