Mae 22 o Fwslemiaid Shiaidd wedi cael eu lladd yn dilyn ffrwydrad mewn marchnad ym Mhacistan.
Cafodd 45 o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad yn rhanbarth Kurram ger y ffin ag Afghanistan.
Ffrwydrodd y bom mewn marchnad yn nhref Parachinar wrth i bobol brynu dillad cynnes ar gyfer y gaeaf, meddai llefarydd ar ran y llywodraeth leol.
Cafodd nifer o bobol eu cludo i’r ysbyty mewn hofrennydd.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn, ond fe fu’r Taliban yn weithgar yn y rhanbarth ers dros ddegawd, gan ladd degau o filoedd o bobol.