Mae cystadleuaeth bysgota’n cael ei chynnal yn Abertawe ddydd Sul, er cof am bysgotwr fu farw fis diwethaf.

Aeth Lee Turner, 45, ar goll ar Dachwedd 7 wedi iddo fynd i drafferthion.

Cafwyd hyd i’w gorff yn y dŵr yn ddeng niwrnod yn ddiweddarach.

Mae’r holl elw o’r digwyddiad ym Mae Abertawe’n mynd at fudiad yr RNLI.