Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi nifer o rybuddion am lifogydd yng nghanolbarth a gogledd Cymru ddydd Sul.

Yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio fwyaf, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru, yw Dyffryn Conwy, Dolgellau Dyffryn Dyfrdwy, Dyffryn Dyfi, Dolgellau a rhannau o afon Hafren ym Mhowys.

Mae nifer o ffyrdd ynghau, a chwe rhybudd wedi’u cyhoeddi hyd yn hyn.

Mae oedi ar drenau yng Ngheredigion, Conwy a Phowys, a bu’n rhaid i’r gwasanaethau brys achub dau o bobol o’u car yn dilyn llifogydd yn y Trallwng.

Mae disgwyl hyd at 6cm (2.4 modfedd) o law yn ystod y dydd, ac mae’r gwynt wedi codi i 70 milltir yr awr yn y gogledd.