Cafodd seiclwr yn ei arddegau ei gludo i’r ysbyty yn Llanelli nos Wener wedi iddo gael ei daro gan gar heddlu oedd yn ymateb i alwad frys.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y car Ford Focus heb farc yr heddlu arno wedi taro’r seiclwr ar ffordd A4138 yn y dref am oddeutu 10 o’r gloch nos Wener.
Cafodd y dyn anafiadau i’w goes.
Mae ymchwiliad ar y gweill i’r gwrthdrawiad, ond daeth cadarnhad gan yr heddlu fod goleuadau’r car yn fflachio a’r seiren yn seinio.