Mae David Cameron yn barod i sefyll ei dir dros ddiwygiadau lles yn y frwydr i drafod telerau aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain fynnu bod mewnfudwyr yn “bryder mawr” yng ngwledydd Prydain ond fod dod o hyd i ateb yn bwysicach na’r dull o ddod o hyd iddo.

Ddechrau’r wythnos diwethaf, dywedodd Prif Weinidog Gwlad Pwyl, Beata Szydlo nad oedd hi’n cytuno â Cameron y dylid gwahardd trigolion o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd rhag hawlio budd-dal gwaith hyd nes eu bod nhw wedi bod yn byw yn y DU am bedair blynedd.

Bydd Cameron yn teithio i Frwsel ddydd Iau lle bydd yn mynegi ei bryder wrth uwchgynhadledd Cyngor Ewrop.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain: “Mae’r Prif Weinidog yn barod i ategu’r pwynt a wnaeth yn ei lythyr a’i araith fis diwethaf – sef yr hyn sy’n bwysig yw datrys y problemau, nid union ffurf y trefniadau.”

Ychwanegodd fod disgwyl i Cameron ddod o hyd i ateb sy’n rheoli llif mewnfudwyr ac sy’n dderbyniol i wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Eisoes, fe ddywedodd Cameron y gellir disgwyl diwygiadau erbyn mis Chwefror.

Ond mae’r Blaid Lafur wedi ei feirniadu, gan ddweud ei fod wedi tanseilio’i ymdrechion i gyfaddawdu drwy fethu â sicrhau cefnogaeth ymhlith gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.