Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama wedi croesawu’r cytundeb newid hinsawdd newydd, gan ddweud mai hwn yw’r “cyfle gorau i achub yr un blaned sydd gennym”.

Daeth sylwadau Obama ar ôl i bron i 200 o wledydd fabwysiadu cytundeb newydd sy’n annog gwledydd i gwtogi ar nwyon tŷ gwydr ac i atal tymheredd y Ddaear rhag codi un gradd selsiws erbyn y flwyddyn 2100.

Fel rhan o’r cytundeb, ni fydd gwledydd nad ydyn nhw’n cydymffurfio â’r cytundeb yn wynebu sancsiynau.

Daeth cymeradwyaeth gan y dorf mewn neuadd ym Mharis wrth i weinidog tramor Ffrainc, Laurent Fabius gyhoeddi bod y cytundeb wedi cael ei dderbyn.

Ond bydd rhaid i wledydd unigol gymeradwyo’r cytundeb cyn y daw i rym.

Mae’r cytundeb yn torri tir newydd oherwydd bellach, nid y gwledydd cyfoethacaf yn unig fydd yn gorfod cydymffurfio pe bai’r cynllun yn cael ei dderbyn.

Dywedodd ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry: “Mae’n fuddugoliaeth i’r holl blaned ac i genedlaethau’r dyfodol.”

Ychwanegodd gweinidog amgylchedd Brasil, Izabella Teixeira: “Heddiw, rydym wedi profi ei bod hi’n bosibl i bob gwlad ddod ynghyd, law yn llaw, i wneud ei phwt i herio newid hinsawdd.”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon: “Mae Cytundeb Newid Hinsawdd Paris yn llwyddiant ysgubol i’r blaned ac i’w phobol.”

Protestiadau

Ond nid pawb oedd yn barod i dderbyn y cytundeb, wrth i brotestwyr ymgynnull ym Mharis gan ddweud nad yw’n mynd yn ddigon pell i achub y blaned.

Ymgasglodd protestwyr ger Tŵr Eiffel gan arddangos baner oedd yn ymestyn am 1.2 milltir o’r Arc de Triomphe hyd at ranbarth La Defense y brifddinas.

Dywedodd llefarydd ar ran Greenpeace fod y cytundeb yn beth da, ond nad yw’n ddigonol.

“Heddiw, mae dynol ryw wedi ymuno ag achos cyffredin, ond yr hyn sy’n digwydd wedi’r gynhadledd hon yw’r peth pwysig.

“Ni fydd y cytundeb hwn ar ei ben ei hun yn ein palu ni allan o’r twll rydyn ni ynddo, ond mae’n gwneud yr ochrau’n llai serth.”