Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i warchod a hyrwyddo hawliau pobol hŷn.
Yn ôl Sarah Rochira, mae pryder y gall hawliau pobol hŷn leihau wrth iddyn nhw heneiddio ac y gall hynny gael effaith ‘ddinistriol’ ar eu bywydau.
Dywedodd y byddai un darn o ddeddfwriaeth yn gallu gwarchod hawliau pobol hŷn, gan osgoi achosion o gam-drin, esgeulustod a gwahaniaethu.
Hawliau ddim yn cael eu gweld yn “berthnasol”
Ychwanegodd nad yw’r Ddeddf Hawliau Dynol nac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn yn cael eu gweld yn berthnasol, ac felly “dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio mor effeithiol ag y gallen nhw i warchod a hyrwyddo hawliau pobol hŷn”.
Byddai’r ddeddfwriaeth yn gwneud hawliau’n “fwy perthnasol” i unigolion, meddai’r Comisiynydd, gan eu galluogi i weld pan nad yw eu hawliau’n cael eu parchu a “herio” hyn.
Mae heddiw yn Ddiwrnod Hawliau Dynol, ac yn gyfle, yn ôl Sarah Rochira, i godi’r mater a gofyn am ymrwymiad gan pwy bynnag fydd y llywodraeth nesa’ i sicrhau nad yw hawliau pobol hŷn yn cael eu diystyru a’u hanwybyddu gan ddarparwyr gwasanaethau,” meddai.
Cynnwys y ddeddfwriaeth
Mae’r Comisiynydd wedi dod â grŵp o arbenigwyr o’r sectorau cyhoeddus a chyfreithiol a’r trydydd sector at ei gilydd, yn ogystal â phobol hŷn, i benderfynu ar gynnwys deddf bosib, a sut i’w gweithredu.
Bydd canfyddiadau’r grŵp yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn 2016.
Ceidwadwyr yn addo
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y byddan nhw’n cyhoeddi Mesur Hawliau Pobol Hŷn os byddan nhw mewn grym yn nhymor nesaf y Cynulliad.
Fe fyddai’r polisi’n cynnwys ymrwymiad i roi pen ar alwadau ffon di-wahoddiad a mynediad am ddim i safleoedd hanesyddol Cadw.
“Mae pobl hŷn yng Nghymru yn haeddu cael eu trin â pharch ac urddas,” meddai Darren Millar AC, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Bobl Hŷn.
“Tra bod Cymru eisoes wedi datblygu deddfwriaeth gynhwysfawr i ddiogelu hawliau plant a phobol ifanc, dydyn ni heb wneud hynny dros ein pobol hŷn, ac mae hynny’n anghywir.”