Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r ymgyrchydd gwrth-apartheid Hanef Bhamjee, a fu farw dros y penwythnos.

Cafodd Hanef Bhamjee o Gaerdydd ei eni yn Ne Affrica pan oedd y drefn apartheid ar waith, a bu’n ymgyrchu yn erbyn y system er pan oedd yn ddeng mlwydd oed.

Bu’n rhaid iddo ddianc o Dde Affrica am Gymru yn y 60au yn sgil ei ran yng nghangen myfyrwyr yr African National Congress.

Buodd yn rhedeg Mudiad Gwrth-apartheid Cymru o’i gartref am flynyddoedd, gyda help gwirfoddolwyr, gan ymgyrchu dros roi diwedd ar hiliaeth, gwladychiad, ac apartheid yn Ne Affrica.

Hanef Bhamjee a Nelson Mandela, a oedd yn adnabod ei gilydd ers pan oedd Mr Bhamjee yn 15 oed

“Chwyldroadwr”

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei frawd, Yusuf, ei fod wedi gwneud “cyfraniad anferth” i hanes rhyddid yn Ne Affrica.

“Fe wnaeth Hanif gyffwrdd bywydau pawb y daeth i gysylltiad â nhw,” meddai.

“Roedd ganddo gymaint i’w roi mewn cariad.

“Roedd ei onestrwydd a’i ddiffuantrwydd yn ein hysbrydoli ni i gyd. Felly, chwaraeodd rôl allweddol wrth siapio meddylfryd cymaint ohonom.

“Chwyldroadwr, brwydrwr dros ryddid, a brwydrwr eofn ar gyfer yr achos dros gyfiawnder cymdeithas.

“Cerfiodd ei enw, ac enw ei deulu De Affrica a’i deulu a’i ffrindiau Caerdydd gydag urddas.

“Rhyng-genedlaetholwr wnaeth ysbrydoli ein meddylfryd mewn ffordd unigryw.

“Fel ymgyrchydd cafodd ei adegau chwithig, ond ar y cyd â symudiad Gwrth-apartheid Cymru fe wnaeth Hanif gyfraniad anferth i hanes rhyddid De Affrica.

“Mae hyn wedi’i gerfio mewn hanes.

“Bydd ei etifeddiaeth yn parhau i’n hysbrydoli ni i ymladd am fywyd gwell i bawb.”

“Cwsg mewn hedd”

Gydag ‘i’ yr arferai Mr Bhamjee sillafu ei enw cyntaf, fel y mae ei frawd yn ei wneud, am sawl blwyddyn, cyn i rywun ddweud wrtho mai ‘e’ oedd yn y sillafiad ar ei bapurau mewnfudo.

Wedi hynny, newidiodd i sillafu ei enw ag ‘e’.

Ar Twitter, dywedodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, mai “gyda thristwch mawr i ni gyd bu farw heddiw ryng-genedlaetholwr hanesyddol Cymreig/De Affricanaidd, ymgyrchydd gwrth-apartheid wnaeth roi Cymru ar y llwyfan gwrth-hiliaeth rhyngwladol dros dri degawd.

“Cwsg mewn hedd, gymar a ffrind,” meddai.

‘Ymgyrchydd amlwg’

Fe wnaeth Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, roi teyrnged iddo hefyd, gan ddweud ei bod hi’n “drist iawn clywed am farwolaeth Mohammed Hanef Bhamjee OBE”.

“Ymgyrchydd amlwg a threfnydd y Mudiad Gwrth-Apartheid ac Ysgrifennydd Mudiad Gwrth-Apartheid Cymru o 1981-94,” meddai.

“Gweithredol iawn yng ngwleidyddiaeth Llafur Cymru.

“Boed i chi orffwys mewn perffaith hedd a phŵer.”

‘Cawr’

Dywedodd Dan De’Ath, cyn-Faer Caerdydd, ei fod yn “drist iawn clywed am farwolaeth fy ffrind Hanef Bhamjee”.

“Roedd Hanef yn gawr ym mudiad gwrth-apartheid Cymru a gwleidyddiaeth sosialaidd,” meddai.

“Roedd yn byw yn y Rhath, ac roedden ni’n falch iawn o’i gael yn gwasanaethu am sawl blwyddyn fel Cadeirydd Plaid Lafur Plasnewydd.

“Colled enfawr.”

Cafodd ei anrhydeddu ag OBE am faterion hil fel cydnabyddiaeth am ei frwydr oes yn erbyn apartheid.