Cafodd pobol werthodd eu tai yng Nghymru llynedd £57,000 yn fwy am eu cartrefi na’r swm y gwnaethon nhw dalu amdanyn nhw, ar gyfartaledd.

Yn ôl dadansoddiad yr asiant tai Hamptons, fe wnaeth pobol yng Nghymru a oedd wedi prynu eu tŷ yn yr ugain mlynedd ddiwethaf ei werthu am £57,490 yn fwy na faint y gwnaethon nhw roi amdano, ar gyfartaledd.

Yn ôl Hamptons, mae cynnydd sydyn mewn prisiau tai ers dechrau’r pandemig wedi arwain at fwy o werthiannau.

Fe wnaeth prisiau tai yng Nghymru gynyddu 14.5% rhwng mis Rhagfyr 2020 a mis Rhagfyr 2021, yn ôl ystadegau diweddaraf Halifax.

Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu bod pobol yn symud yn amlach, efallai oherwydd newid mewn ffordd o fyw yn sgil y pandemig.

O ystyried gwerthiannau dros y Deyrnas Unedig, fe wnaeth 64% o’r gwerthwyr werthu o fewn degawd, o gymharu â 59% yn 2019.

Cynnydd sydyn mewn prisiau

“Mae cynnydd sydyn mewn prisiau tai dros y deunaw mis diwethaf wedi cynyddu faint o arian mae perchnogion tai yn ei wneud,” meddai Aneisha Beveridge, pennaeth ymchwil gyda Hamptons.

“Ond tra bod perchnogion tai mawr wedi elwa gan brynwyr yn chwilio am le, mae elwon perchnogion fflatiau wedi bod yn wannach.

“Mae enillion mewn prisiau tai wedi cael eu pennu’n bennaf gan ddau ffactor – y cyfnod o amser mae pobol wedi bod yn berchen ar eu cartref, a’r pwynt yn ystod y cylchdro tai y gwnaethon nhw ei brynu.

“Ar y cyfan, mae perchnogion tai sydd wedi bod yn berchen ar eu heiddo ers amser hirach wedi gweld mwy o gynnydd mewn pris ac felly wedi gwneud elwon mwy – er nad yw’r rhan fwyaf o’r elwon hyn yn cael eu gweld gan y prynwyr gan eu bod nhw’n cael eu hailfuddsoddi yn y fasnach dai y tro nesaf maen nhw’n prynu eiddo.”

Y cynnydd ym mhrisiau tai Cymru’n parhau i fod yn uwch na gweddill y Deyrnas Unedig

Fe wnaeth prisiau tai yng Nghymru gynyddu 14.5% rhwng Rhagfyr 2020 a Rhagfyr 2021, ond mae disgwyl i’r cynnydd arafu eleni