Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi datgelu rhai o’r rhesymau rhyfeddaf am wneud galwadau brys yn ystod 2021.
Yn eu plith roedd y ffaith fod rhywun wedi bwyta brechdan caws a thomato oedd wedi pydru, roedd rhywun arall wedi glwychu plastr ar eu braich, a rhywun arall eto fyth wedi cael dolur rhydd oherwydd finegr oedd wedi’i gymysgu â dŵr a lemwn.
Soniodd un arall am gael tyllau yn y glust, a bod y twll “wedi mynd”.
Roedd un arall yn dweud nad oedd ganddyn nhw ddigon o arian i gyrraedd yr uned frys yn yr ysbyty, ac yn gofyn am lifft yno.
Mewn galwad amheus arall, doedd y sawl oedd yn galw ddim yn gwybod a oedd angen tacsi neu ambiwlans gan eu bod nhw “wedi bod yn chwarae â phlastr” a’i fod e wedi torri – “ydych chi o ddifri?” oedd yr ymateb pan gawson nhw wybod na fyddai modd anfon ambiwlans.
Ffoniodd rhywun arall yn dweud bod ganddyn nhw friw ar eu braich, ond nad oedd yn gwaedu, ac un arall yn gofyn a ddylen nhw gymryd moddion newydd.
O blith 470,653 o alwadau dros y 12 mis diwethaf, roedd bron i chwarter y galwadau hynny’n rhai lle nad oedd argyfwng.
Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn atgoffa pobol i beidio â ffonio 999 oni bai bod argyfwng neu fod bywyd rhywun mewn perygl.
“Mae hynny’n golygu pobol sydd wedi stopio anadlu, pobol sydd â phoen yn eu brest neu anawsterau anadlu, mynd yn anymwybodol, tagu, alergeddau difrifol, gwaedu catastroffig neu rywun yn cael strôc,” meddai Jason Killens, prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
“Mae gan bobol sydd â rhywbeth yn sownd yn eu clust angen clinigol o hyd, ond mae’n gamgymeriad ffonio 999 ar gyfer hynny pan fo cynifer o ffyrdd eraill o gael mynediad at gymorth mwy priodol.
“Mae galwadau nad ydyn nhw’n rhai hanfodol yn cyfateb i bron i chwarter ein galwadau 999, a gellid treulio amser sy’n cael ei dreulio ar y rhain yn helpu rhywun mewn sefyllfa lle mae’n golygu byw neu farw.”
Rhybudd yn sgil Covid-19
Wrth i Covid-19 waethygu, mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yn gofyn i’r cyhoedd ystyried ffyrdd amgen o gael triniaeth nad ydyn nhw’n cynnwys ffonio 999.
“Mae’n hawdd gwneud hwyl am ben y rhai sy’n ffôl wrth ffonio 999 ond mewn gwirionedd, mae gan y bobol hyn angen clinigol dilys – dydyn nhw jyst ddim yn gwybod lle i droi ar ei gyfer,” meddai Lee Brooks, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau.
“Rydyn ni’n gofyn i’r cyhoedd addysgu eu hunain ar wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd sydd ar gael yn eu hardal, ac mae nifer ohonyn nhw.”
Mae’n cynghori pobol i droi at wefan y Gwasanaeth Iechyd i wirio symptomau, neu ffonio 111 i siarad â nyrs neu gynghorydd iechyd.
“Meddyliwch hefyd am eich fferyllydd, deintydd ac optegydd lleol, yn ogystal â’ch uned man anafiadau a meddyg teulu,” meddai, gan ychwanegu y dylai pobol sicrhau bod ganddyn nhw gabinet meddyginiaeth wrth law i drin salwch yn y cartref, gan gynnwys peswch neu annwyd, gwddw tost a briwiau.
“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddefnyddio gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd mewn ffordd ddoeth a’u gwarchod nhw ar gyfer y rhai sydd eu hangen nhw fwyaf.
“Helpwch ni i’ch helpu chi, a meddyliwch ddwywaith cyn i chi ffonio 999.”