Mae mwy na 160 o bobol wedi’u lladd yn dilyn protestiadau yn Kazakhstan dros yr wythnos ddiwethaf, yn ôl gweinyddiaeth iechyd y wlad.

Mae ffigurau’r darlledwr cyhoeddus yn uwch o lawer na ffigurau eraill sydd wedi’u hadrodd.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a yw’r 164 o bobol yn cyfeirio at bobol gyffredin yn unig, neu a yw’n cynnwys y rhai sy’n ceisio gweithredu’r gyfraith hefyd.

Daeth cadarnhad gan yr awdurdodau fod 16 o blismyn neu swyddogion cenedlaethol wedi’u lladd hefyd.

Roedd 103 o farwolaethau yn Almaty, dinas fwya’r wlad lle bu protestwyr yn meddiannu adeiladau’r llywodraeth ac yn eu rhoi nhw ar dân.

Roedd tri o’r bobol a gafodd eu lladd yn blant, gan gynnwys merch bedair oed.

Mae lle i gredu bod mwy na 2,200 wedi ceisio triniaeth am anafiadau yn sgil y protestiadau, a bod oddeutu 1,300 o swyddogion diogelwch wedi’u lladd hefyd.

Mae oddeutu 5,800 o bobol wedi’u cadw yn y ddalfa gan yr heddlu yn ystod y protestiadau treisgar, ac mae Rwsia wedi anfon milwyr i’r wlad, yn ôl swyddfa’r arlywydd Kassym-Jomart Tokayev, sy’n dweud bod y sefyllfa wedi sefydlogi rywfaint a bod gan yr awdurdod reolaeth ar adeiladau’r llywodraeth unwaith eto.

Mae maes awyr Almaty ynghau o hyd, ond mae disgwyl iddo agor eto fory (dydd Llun, Ionawr 10).

Protestiadau

Pris olew oedd asgwrn y gynnen pan ddechreuodd y protestiadau ar Ionawr 2 cyn gwasgaru ar draws y wlad.

Maen nhw bellach wedi troi’n brotestiadau ehangach yn erbyn y llywodraeth, gyda’r blaid lywodraeth mewn grym yn y wlad ers i Kazakhstan ennill ei hannibyniaeth o’r Undeb Sofietaidd yn 1991.

Mae unrhyw wrthwynebwyr i’r llywodraeth yn cael eu tawelu, eu gwthio i’r cyrion neu eu hethol yn rhan o’r llywodraeth, ac mae tlodi ar wasgar er bod gan y wlad gyfoeth o adnoddau megis olew, nwy, wraniwm a mwynau.

“Brawychwyr” oedd yn gyfrifol am y protestiadau, yn ôl yr arlywydd, a hynny gyda chymorth o dramor ond does dim tystiolaeth i gefnogi hyn.

Mae Karim Masimov, cyn-bennaeth cudd-wybodaeth a gwrth-frawychiaeth y wlad, wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio disodli’r llywodraeth, ddyddiau’n unig ar ôl iddo gael ei symud o’i swydd yn bennaeth ar y Pwyllgor Diogelwch Cenedlaethol.

Mae lle i gredu mai gwrthwynebwyr Nursultan Nazarbayev, y cyn-arlywydd, oedd yn gyfrifol am y protestiadau ar y dechrau, gan eu bod nhw hefyd yn gwrthwynebu’r arlywydd presennol a ddaeth i rym adeg ei ymddiswyddiad dan bwysau yn 2019.

Roedd gan Nazarbayev gryn rym o hyd yn bennaeth ar y gwasanaethau diogelwch.