Mae dynes 41 oed wedi cael ei lladd wedi iddi gael ei tharo gan fan ar ffordd Blaenau’r Cymoedd.

Cafodd y ddynes ei tharo gan fan Mercedes Sprinter am oddeutu 7.45 nos Sadwrn wrth iddi gerdded i ffwrdd o’i char oedd wedi torri i lawr ar ymyl y ffordd.

Mae ei theulu wedi cael gwybod.

Roedd y ffordd ger cylchfan Dowlais Top ynghau am nifer o oriau yn dilyn y digwyddiad.

Mae Heddlu’r De wedi apelio am dystion, ac maen nhw’n awyddus i ddod o hyd i’r gyrrwr oedd wedi stopio i siarad â gyrrwr y fan wedi’r digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.