Peter O’Brien
Mae cwest wedi cael ei agor a’i ohirio i farwolaeth dau ddyn gafodd eu lladd yn dilyn ffrwydrad mewn gwaith dur yng Nghaerdydd.

Mae ymchwiliad gan yr heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch i achos y ffrwydrad yn parhau bythefnos ers y digwyddiad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i waith dur Celsa Steel UK yn Sblot am 10.30yb ar 18 Tachwedd ar ôl ffrwydrad yn islawr yr adeilad.

Bu farw Peter O’Brien, 51, tad i chwech o blant o Lanisien, Caerdydd, a Mark Sim, 41, o Caldicot, yn y ffrwydrad.


Mark Sim
Cafodd pedwar o bobl hefyd eu hanafu a’u cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru. Maen nhw bellach wedi gadael yr ysbyty.

Cafodd y cwest yn Llys y Crwner Caerdydd ei agor a’i ohirio heddiw.