Rhan o ddyluniad newydd Yr Egin
Yn ystod cyfarfod ag unigolion a chwmnïau o’r diwydiannau creadigol, fe fydd Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant yn datgelu dyluniad newydd Canolfan S4C Yr Egin.

Mae’r Brifysgol yn gobeithio cwblhau’r gwaith ar y ganolfan erbyn 2018, a hynny wedi i Awdurdod S4C gadarnhau ym mis Mawrth 2014 y byddai pencadlys y Sianel yn symud i gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin.

Mae Prif Weithredwr S4C Ian Jones wedi dweud wrth BBC Cymru bod eu hymrwymiad i symud ei phencadlys i Gaerfyrddin mor gadarn ag erioed, a hynny er gwaetha’r toriadau i’w chyllideb.

Fe fydd Canolfan S4C Yr Egin yn gartref i oddeutu 25 o gwmnïau a sefydliadau, ac yn hybu cyfnewidfa amlddisgyblaethol, entrepreneuriaeth a chreadigrwydd.

‘Y drindod’

Mae’r dyluniad wedi’i wneud rhwng dau gwmni, sef Rural Office for Architecture (ROA) o Gastell Newydd Emlyn a Building Design Partnership (BDP) sy’n gwmni rhyngwladol o benseiri, peirianwyr a dylunwyr.

“Mae’r cynllun ar gyfer Canolfan S4C Yr Egin wedi’i seilio ar berthynas rhwng y Brifysgol, ei darpar denantiaid a’r gymuned,” meddai Niall Maxwell prif bensaer y prosiect o gwmni ROA.

“Mae’r berthynas hon, neu’r drindod, yn cael ei adlewyrchu yn nyluniad yr adeilad; ffurf drionglog syml sy’n eistedd uwchben tirwedd Sir Gâr,” esboniodd.

“Mae cynllun mewnol yr adeilad wedi’i ganoli o gwmpas cyntedd ac atriwm cyhoeddus sy’n cysylltu pob llawr gyda chylchrediad o lwybr, gan annog cyfathrebu a rhyngweithio rhwng nifer o ddefnyddwyr yr adeilad.”

 ‘Carreg filltir’

“Dyma garreg filltir bwysig yn natblygiad prosiect Canolfan S4C Yr Egin”, meddai Gwilym Dyfri Jones, Is-ganghellor Cysylltiol Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant.

“Mae’n ddatblygiad cyffrous, beiddgar a thrawsnewidiol a fydd yn sicr yn effeithio’n gadarnhaol ar ddatblygiad yr economi, yr iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y rhan hon o Gymru a thu hwnt.”

Esboniodd y bydd y ganolfan yn gyfle i ddod ag ymarferwyr creadigol, digidol a diwylliannol ynghyd o fewn “un adeilad eiconig.”

Cam nesaf y prosiect fydd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i ymgynghori ar y dyluniad, cyn cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Gâr erbyn diwedd mis Ionawr.