Ty'r Cyffredin
Fe fydd dadl arbennig a phleidlais yn cael ei chynnal yn y Senedd heddiw i drafod ehangu cyrchoedd awyr yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS) i Syria.

Disgwylir i’r ddadl barhau trwy’r dydd gan gymryd lle sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog, a disgwylir y bleidlais yn hwyr y prynhawn.

Deellir y gallai’r cyrchoedd cyntaf gael eu cynnal erbyn diwedd yr wythnos os yw’r Senedd yn pleidleisio o blaid ehangu’r cyrchoedd.

Mae’r mater wedi achosi rhwyg o fewn y Blaid Lafur gyda’r arweinydd Jeremy Corbyn yn gwrthwynebu cynnal cyrchoedd awyr yn Syria ac aelodau eraill ei blaid yn bwriadu cefnogi’r Llywodraeth. Cafodd Jeremy Corbyn ei orfodi i roi pleidlais rydd i ASau ei blaid yn dilyn cyfarfod stormus o’i gabinet.

Credir y bydd hyd at 50 o ASau Llafur yn cefnogi’r Llywodraeth – gan gynnwys llefarydd materion tramor y blaid Hilary Benn.

Yn ôl  ymchwil gan BBC Cymru mae 13 o’r 25 o ASau Llafur yng Nghymru yn bwriadu gwrthwynebu’r cynllun.

Mae’r Unoliaethwyr Democrataidd a’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn cefnogi cynnal cyrchoedd awyr, tra bod tua dwsin o ASau Ceidwadol yn bwriadu pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth.

Mae’r SNP hefyd wedi bod yn feirniadol o fesur y Prif Weinidog ac mae disgwyl i’r 54 AS bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth.

Fe wnaeth golwg360 ofyn i rai o Aelodau Seneddol Cymru sut y byddan nhw’n pleidleisio yn y Senedd.

Llafur

Mae Paul Flynn, AS Llafur Gorllewin Casnewydd, wedi bod yn feirniadol iawn o’r bwriad i weithredu’n filwrol yn erbyn IS. Dywedodd y bydd yn pleidleisio yn erbyn cynnal cyrchoedd awyr yn Syria.

“Dw i’n meddwl ein bod ni’n ymladd y rhyfel anghywir fan hyn. Mae’n frwydr dros galonnau a meddyliau, a does dim modd ennill y rheiny trwy fomiau a bwledi. Bydd mwy o ddrwg yn dod o hyn,” meddai.

Fe ychwanegodd mai “pwrpas erchyllterau fel Sharm el Sheik, Tiwnisia a Pharis yw creu ymateb milwrol a fyddai’n llusgo cenhedloedd i ryfel rhwng Cristnogion a Mwslimiaid ar draws y byd.”

Ceidwadwyr

Wrth ofyn i David Davies, AS Ceidwadol Trefynwy, fe ddywedodd y byddai’n pleidleisio o blaid cynnal y cyrchoedd awyr.

“Mae digwyddiadau dychrynllyd yn Tiwnisia a llefydd eraill wedi dangos maint y bygythiad ry’n ni’n wynebu gan IS.”

Esboniodd ei fod wedi pleidleisio yn erbyn “cynnal cyrchoedd awyr pan oeddem ni ystyried bomio lluoedd Assad, ond rwy’n meddwl y bydda’ i yn cefnogi cyrchoedd awyr yn erbyn IS.”

Plaid Cymru

Mae golwg360 hefyd ar ddeall y bydd tri  Aelod Seneddol Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn cynnal y cyrchoedd awyr yn Syria.

Fe ddywedodd Hywel Williams AS Arfon: “Ar ôl ystyriaeth ofalus, mae Plaid Cymru o’r farn unfrydol fod y Prif Weinidog wedi methu dadlau’r achos o blaid ymyrraeth filwrol ar ran y DU yn Syria.”

Fe ddywedodd nad yw ei blaid yn credu y byddai “gollwng bomiau o’r awyr yn trechu IS.”

“Yn fwy na hynny, rydym o’r farn y byddai gweithredu milwrol gan y DU yn bygwth ansefydlogi Syria a’r rhanbarth ehangach yn bellach, a thanseilio diogelwch ein cymunedau gartref.”

Democratiaid Rhyddfrydol

Nid oedd AS y Democratiaid Rhyddfrydol, Mark Williams, yn barod i ryddhau manylion am sut y bydd ef yn pleidleisio ar hyn o bryd.

Dywedodd ei lefarydd ei fod am “fwy o wybodaeth” ac am “glywed tystiolaeth” am yr hyn sydd gan y Prif Weinidog i’w ddweud yn gyntaf.