Mae dringwr o ogledd Cymru wedi cyhoeddi blog yn sôn am ei brofiadau wedi i arth ymosod arno ef a’i ffrind yng Nghanada.
Mae Nick Bullock o Lanberis yn disgrifio’r ymosodiad fel un “dychrynllyd”, gan ddweud fod ei ffrind Greg Boswell o Fife yn yr Alban wedi’i “niweidio’n ddifrifol”.
Roedd y ddau yn dringo rhan o Mount Wilson yn y Rockies yng Nghanada dros y penwythnos pan wnaeth arth ymosod arnyn nhw.
Fe ddywedodd Nick Bullock fod yr arth wedi mynd heibio’r ddau gan “ffroeni a chwyrnu’n uchel”.
“Am eiliad, fe wnaeth edrych arna i, ac roeddwn i’n meddwl mai dyna’r diwedd, ond wedyn fe wnaeth sylwi fod Greg wedi disgyn.”
Esboniodd fod yr arth wedi cnoi drwy esgid yr Albanwr, wedi hyrddio gan roi ei bawen ar ei goes cyn ei godi oddi ar y ddaear.
Fe wnaeth Greg Boswell gydio yng ngheg yr arth er mwyn torri’n rhydd gan weiddi ar Nick Bullock am help.
Soniodd Nick Bullock fel yr aeth ati i helpu ei ffrind, ac fe lwyddodd y ddau i ddianc a chuddio mewn coedwig am oriau hir mewn amodau rhewllyd.
Yna, daeth y ddau o hyd i lwybr diogel i lawr y mynydd a chyrraedd tref Banff, Alberta lle cawson nhw eu trin mewn ysbyty lleol.