Mae Heddlu Gwent wedi enwi’r dyn a gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad ar yr M48 ger Cas-gwent yn ystod oriau mân bore dydd Sul.

Roedd Alexander Keningale yn 61 oed ac yn dod o Gil-y-coed.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw am tua 2.45yb bore dydd Sul, 29 Tachwedd  yn dilyn adroddiadau bod un cerbyd wedi bod mewn gwrthdrawiad ar Gyffordd 2 ar y draffordd ger Cas-gwent.

Alexander Keningale oedd yn gyrru’r cerbyd a chafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent lle bu farw o’i anafiadau.

Mae’r heddlu’n dweud bod ei deulu yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.