Dylai’r dyn sy’n cael ei adnabod fel y Yorkshire Ripper ddychwelyd i’r carchar, ar ôl i seiciatryddion ddweud nad yw bellach yn dioddef o salwch meddwl, yn ôl mab un o’r merched cyntaf i gael eu lladd gan Peter Sutcliffe.

Daeth sylwadau Richard McCann yn dilyn argymhelliad meddygon y dylai Sutcliffe, 69,  sydd wedi treulio 31 mlynedd mewn uned seiciatryddol yn Ysbyty Broadmoor,  gael ei symud i uned arbennig mewn carchar.

Yn yr Old Bailey yn 1981, cafwyd Peter Sutcliffe yn euog o lofruddio 13 dynes a cheisio llofruddio saith dynes arall yn Swydd Efrog a Manceinion. Cafodd ei garcharu am oes ac fe ddyfarnodd yr Uchel Lys na ddylai fyth gael ei ryddhau. Cafodd apêl gan Sutcliffe ei wrthod.

Yn 1984, cafodd ei symud o garchar Parkhurst i uned seiciatryddol Broadmoor yn Berkshire ar ôl cael diagnosis o sgitsoffrenia paranoiaidd.

Fe ddywedodd Richard McCann nad yw wedi cael cadarnhad swyddogol ynglŷn â’r penderfyniad am gyflwr iechyd meddwl Peter Sutcliffe.

Ond, “os bernir fod ei iechyd meddwl yn caniatáu iddo fynd yn ôl i’r gyfundrefn garchar arferol, rwy’n credu mai dyna’r peth iawn. Dw i ddim yn dweud hynna allan o ddicter. Dw i’n meddwl mai mynd yn ôl i’r carchar yw’r peth iawn iddo,” ychwanegodd.

“Yr hyn sy’n bwysig yw bod Sutcliffe byth yn cael ei ryddhau,” meddai Richard McCann, a oedd yn bump oed pan gafodd ei fam ei llofruddio yn Leeds yn Hydref 1975.

Fe fydd y penderfyniad terfynol ynglŷn â symud Peter Sutcliffe yn cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Cyfiawnder, “mae’r penderfyniadau ynglŷn ag anfon  carcharorion yn ôl i garchar ar ôl bod mewn ysbytai diogel wedi’u seilio ar asesiadau clinigol a wneir gan staff meddygol annibynnol.

“Rydym ni’n meddwl am ddioddefwyr Sutcliffe a’u teuluoedd,” meddai’r llefarydd.