Mae cwmni cyfrifiadurol yn Abertawe wedi teithio i Zambia i osod system gyfrifiadurol a fydd yn cynnal addysg technoleg gwybodaeth mewn ysgolion.

Cafodd y cyfrifiadur Raspberry Pi ei adeiladu a’i ddatblygu yng Nghymru, ac mae cwmni GiaKonda yn mynd â’r teclyn allan i’r wlad i’w ddefnyddio mewn gwersi yn rhanbarth Siavonga yn ne’r wlad.

Yr wythnos hon, cafodd y fersiwn ddiweddaraf o’r Raspberry Pi ei werthu am y tro cyntaf am £4 yn unig.

Diben y Raspberry Pi pan gafodd ei ddatblygu ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd y byddai’n gallu cynnig mynediad rhad i gyfrifiaduron mewn cymunedau difreintiedig.

Caiff ei reoli gan system Linux.