Ni ddylid darlledu hysbysebion am fwydydd â braster, halen a siwgr cyn 9 o’r gloch y nos, meddai Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford.
Mae Dr Drakeford yn awyddus i Lywodraeth Prydain weithredu er mwyn gwella cyflwr iechyd a deiet plant a phobol ifanc.
Dywedodd mai diodydd â siwgr yw’r perygl mwyaf, ac roedd hefyd yn feirniadol o gacennau, siocled, bisgedi a grawnfwyd.
Mae Llywodraeth Prydain wrthi’n llunio strategaeth i ddatrys y broblem.
Mae disgwyl i Mark Drakeford alw am waharddiad ar hysbysebion yn ystod rhaglenni teledu, ar y we ac yn y sinema.
Yng Nghymru, mae 26% o blant dros eu pwysau neu’n ordew.
Dywedodd Mark Drakeford: “Mae hysbysebion sy’n marchnata diodydd ysgafn, siocled, losin eraill a grawnfwydydd â siwgr yn cyfrannu’n helaeth at fod plant yn cael siwgr yn rhad ac am ddim.
“Mae’r holl sectorau bwyd hyn yn cael eu marchnata yn ystod toriadau am hysbysebion ar raglenni teledu rydyn ni’n gwybod fod ein plant yn eu gwylio, ar y we, ac yn y sinema cyn ffilmiau sy’n targedu plant.”