Argraff arlunydd o bafiliwn newydd y Brifwyl (o wefan yr Eisteddfod Genedlaethol)
Fe fydd pafiliwn newydd sbon yn cymryd lle’r Pafiliwn Pinc yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni yr haf nesaf.
Dywed y trefnwyr y bydd y pafiliwn ‘Evolution’ gan gwmni Neptunus yn cynnig profiad gwell i’r gynulleidfa ac i bawb sy’n perfformio ar y llwyfan.
“Mae hwn yn gychwyn ar gyfnod newydd ar ôl deng mlynedd o gynnal ein cystadlaethau a’n seremonïau yn y Pafiliwn Pinc,” meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts.
“Mae’r adeilad newydd yn fwy cadarn ac yn ymateb i’n gofynion ni fel trefnwyr a’r gynulleidfa. Bydd ei adnoddau’n ardderchog, gyda photensial i ni ddefnyddio’r gofod mewn ffordd wahanol a newydd, gan ein galluogi ni i fod yn uchelgeisiol a chreadigol.”
Dywedodd fod rhagor o waith i’w wneud ar ddylunio diwyg allanol y pafiliwn newydd.
“Har arall i ni fel tîm fydd creu delwedd ddeniadol a gafaelgar ar gyfer ein Pafiliwn newydd,” meddai Elfed Roberts.
“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i drawsnewid y Maes, a’r pafiliwn newydd yw ein prosiect nesaf.
“Byddwn yn gweithio ar syniadau dros y misoedd nesaf ac yn chwilio am gefnogaeth i’n helpu ni i sicrhau bod y pafiliwn newydd yn cymryd ei le ar Faes deniadol yr Eisteddfod yn Y Fenni o 29 Gorffennaf – 6 Awst y flwyddyn nesaf.”