William Powell (o'i wefan)
Fe ddylai Parciau Cenedlaethol ac ardaloedd hard yng Nghymru gael eu defnyddio i helpu rhoi croeso i ffoaduriaid o wledydd fel Syria, meddai Aelod Cynulliad.
Mae William Powell, AC y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Gorllewin a’r Canolbarth, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfrannu at y gwaith.
Fe fyddai hynny’n golygu trefnu teithiau i ffoaduriaid i ardaloedd hard, meddai, er mwyn eu helpu i ddod tros drawma’u gorfennol.
‘Croesawu’
Fe ddywedodd fod mudiad yn ei ardal ei hun – Seintwar Ffoaduriaid y Gelli, Aberhonddu a Thalgarth – yn bwriadu trefnu tripiau i ffoaduriaid i Fannau Brycheiniog.
“Dw i’n croesawu syniadau o’r fath yn fawr,” meddai William Powell. “A fyddwn i’n hoffi gweld Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth a all i gyfoethogi’r noddfa i’r bobol anfoddus yma.”
Cefndir
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi dweud y gallai Cymru dderbyn cymaint â 1,600 o ffoaduriaid.
Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai casgliad o gyrff perthnasol yn trefnu’r gwaith.