Mae aelodau o grwpiau iaith a grwpiau darlledu wedi bod yn trafod ‘argyfwng darlledu Cymru’ mewn cyfarfod yng Nghaernarfon heno yn trafod dyfodol S4C.
Daw’r cyfarfod diwrnod yn unig ers i’r lywodraeth San Steffan gyhoeddi y bydd y sianel yn colli £1.7m o’i chyllid erbyn 2020.
Erbyn hyn, mae Llywodraeth Prydain yn rhoi llai na £7 miliwn tuag at S4C, gostyngiad o £93 miliwn o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl, ac mae’r rhan fwyaf o gyllid y sianel bellach yn dod oddi wrth y BBC.
Iestyn Garlick o Deledwyr Annibynnol Cymru (TAC), Siwan Haf o Cwmni Da, Andrew Walton o Gymdeithas yr Iaith, a David Wyn o Gynghrair Cymunedau Cymraeg oedd y prif gyfranwyr yn y drafodaeth yng Ngaleri Caernarfon.
Gallwch wylio rhan o’r drafodaeth, gan gynnwys cyfraniadau gan aelodau o’r gynulleidfa oedd yno, yn y clip isod:
Nod yr adran Safbwynt yw sbarduno trafodaeth am Gymru a thrafodaeth am y byd yn Gymraeg. Gallwch gyfrannu erthyglau am unrhyw bwnc – diwylliant, yr iaith, celfyddydau, teledu, radio, yr amgylchedd, twristiaeth, iechyd, gwleidyddiaeth, hanes, addysg, yr economi, yr iaith… unrhyw beth, ewch amdani!
Darllen rhagor
Ar ôl cyflwyno’ch erthygl, bydd golygyddion Golwg yn cael cyfle i’w golygu, ei chymeradwyo, a’i chyhoeddi – bydd eich erthygl wedyn yn ymddangos ar adran Safbwynt ar Golwg360.
Byddwn hefyd yn rhannu eich erthygl i’n dilynwyr ar Twitter a Facebook, felly cofiwch dynnu sylw at eich erthygl a’i hanfon at eich ffrindiau ac unrhyw un arall a allai fod â diddordeb. Bydd eich enw ar y wefan yn gweithredu fel dolen i’ch holl gyfraniadau – felly gallwch ei drin ychydig fel blog personol.
Os byddwch am gyfrannu’n rheolaidd – cysylltwch! Gallwn drefnu tanysgrifiad am ddim i gyfranwyr rheolaidd.
Mwynhewch y sgrifennu… a’r darllen!
Darllenwch ein canllawiau ar gyfrannu i’r adran Safbwynt